Trionglau sy'n cysylltu'r Preselau, Bryn Celli Ddu, a Chôr y Cewri
- Cyhoeddwyd
Ar ddiwrnod hiraf y flwyddyn, mae miloedd wedi bod yn tyrru i Gôr y Cewri er mwyn gweld yr haul yn codi.
Mae ei gysylltiad ag ardal y Preselau yn gyfarwydd i ni gyd, ond does neb eto wedi llwyddo i esbonio pam fod pobl, miloedd o flynyddoedd yn ôl, wedi cario'r cerrig glas trwm dros y pellter hir o Sir Benfro i safle'r cylch cerrig hynafol.
Bell o flaen eu hamser
Ond mewn llyfr newydd sydd wedi'i gyhoeddi heddiw, mae yna ymgais i daflu goleuni ar y mater, ac os yw'n gywir, mae'n dangos fod adeiladwyr y cylch cerrig wedi bod yn defnyddio damcaniaeth fathemategol Pythagoras, filoedd o flynyddoedd cyn i'r Groegwr hyd yn oed ei llunio.
Yn ôl y llyfr, mae cysylltiad rhwng Côr y Cewri â nifer o safleoedd hynafol eraill, gan gynnwys Bryn Celli Ddu yn Sir Fôn.
Gweithio mewn Trionglau
Mae un o gyfranwyr llyfr Megalith, Robin Heath, sy'n arbenigwr ar safleoedd fel Côr y Cewri, yn honni fod adeiladwyr y cyfnod wedi bod yn defnyddio damcaniaeth Pythagoras, a'i bwyslais ar drionglau sgwâr, nid yn unig er mwyn sicrhau fod safleoedd fel Côr y Cewri'n pwyntio at fannau o bwys yn safle'r haul a'r sêr, ond o bosib, i benodi union leoliad y safleoedd.
Mae Robin yn damcaniaethu yn y llyfr fod safleoedd cyntefig Prydain wedi'u cysylltu gan rwydwaith cywrain o drionglau sgwâr fel sy'n cael eu dangos yn y llun uchod.
Hirsgwar allweddol
Mae'r llyfr hefyd yn amlygu fod safle pedwar o'r cerrig yng nghanol Côr y Cewri, yn ffurfio petryal hirsgwar perffaith.
O'i hollti o gornel i gornel mae hwn wedyn yn ffurfio dau driongl sgwâr.
Os dynnwch chi wyth llinell o bwyntiau'r trionglau, maen nhw'n cyfateb i leoliadau allweddol yr haul a'r sêr ar ddyddiadau pwysig yn y calendr Neolithig.
Er taw damcaniaethau yw'r trionglau sydd yn cysylltu'r gwahanol safleoedd ac yn creu cysylltiad rhwng Y Preselau, Bryn Celli Ddu a Chôr y Cewri, mae'r ffaith fod pobl sydd wedi'u hystyried yn gyntefig gan lawer, yn amlwg â dealltwriaeth fanwl o astroleg a mathemateg.
Ydy'r ffaith ein bod ni dal ddim yn sicr o'u hargymhellion yn awgrymu bod mwy o sypreisus i ddod?