Oedi hir ar yr M4 wedi gwrthdrawiad difrifol
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn rhybuddio gyrwyr i fod yn barod am oedi hir ac i osgoi ardal o'r M4 wrth i'r gwasanaethau brys ymateb i wrthdrawiad difrifol.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ger cyffordd 29 ac mae'r ffordd ar gau i'r ddau gyfeiriad gyda thraffig i'r dwyrain yn cael ei ddargyfeirio tuag at ffordd yr A48 Parc Tredegar a'r A48 fewn i Gaerdydd.
Yn ôl adroddiadau mae'r traffig yn ciwio rhwng cyffordd 28 yr A48 a chyffordd 30 Porth Caerdydd ac mae oedi hir ar ôl i Ambiwlans Awyr lanio ar y ffordd.
O ganlyniad, gallai'r oedi effeithio ar rai sy'n ceisio cyrraedd Caerdydd ar gyfer cyngerdd Ed Sheeran yn Stadiwm y Principality.
Mae Heddlu Gwent wedi cyhoeddi datganiad sy'n dweud: "Mae Heddlu Gwent yn delio gyda gwrthdrawiad difrifol ar yr M4, cyffordd 29 tua'r dwyrain. Mae'r ffordd ar gau er mwyn cynnal ymchwiliad.
"Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio o gyffordd 30. Mae'r lonydd tua'r gorllewin bellach ar agor a'r traffig yn symud."
Mae'r heddlu'n apelio ar dystion i'r digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101 a dyfynnu'r cyfeirnod 358 21/6/18, ac maen nhw'n awyddus iawn i gael lluniau a gamerâu 'dashcam' cyn ac yn ystod y digwyddiad.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mehefin 2018