Cyhoeddi enwau llywyddion Eisteddfod Genedlaethol 2019
- Cyhoeddwyd
Mae enwau'r Llywyddion Anrhydeddus ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy wedi cael eu cyhoeddi.
Fe fydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal ar gyrion tref Llanrwst rhwng 2-10 Awst.
Yn ôl yr Eisteddfod, mae'r saith yn adnabyddus i bobl ardal Sir Conwy, ac maen nhw wedi'u gwahodd i fod yn Lywyddion oherwydd eu cyfraniad i fywyd diwylliannol yr ardal a'r Gymraeg yn lleol.
Dywedodd Prif Weithredwr yr Eisteddfod Genedlaethol, Elfed Roberts ei bod hi'n "bwysig cydnabod cyfraniad unigolion allweddol i ddiwylliant bro'r Eisteddfod".
Y llywyddion fydd:
Myrddin ap Dafydd: Golygydd, perchennog Gwasg Carreg Gwalch a phrifardd. Mae'n un o hoelion wyth y gymuned, ac wedi cyhoeddi nifer o ddramâu, llyfrau ar lên gwerin ac amryw o lyfrau i blant, ynghyd â geiriau i sawl un o'n caneuon mwyaf adnabyddus.
Ieuan Edwards: Dyn busnes amlwg sydd â'i gynnyrch dan faner Edwards o Gonwy, sydd wedi dod yn un o'r brandiau cig enwocaf yng Nghymru a thu hwnt.
Dafydd a Catherine Lloyd Jones: Dau sydd yn amlwg iawn ym myd cerddoriaeth yn Sir Conwy, y ddau wedi cyfrannu'n helaeth i'r Eisteddfod ac i ddiwylliant eu bro am flynyddoedd lawer.
Maureen Hughes: Cyn-athrawes gerddoriaeth yn Nyffryn Conwy a chyn-bennaeth ar ysgolion cynradd Maenan a Rowen, bu'n hyfforddi Côr Merched Carmel, ac mae'n feirniad cerdd amlwg ac uchel ei pharch.
Catherine Watkin: Mae wedi cyfrannu'n fawr at hyfforddi pobl ifanc yr ardal drwy'r blynyddoedd. Mae'n osodwr cerdd dant a gwerin blaenllaw, ac yn arwain parti meibion Hogie'r Berfeddwlad, sy'n enillwyr cenedlaethol, ers bron i 20 mlynedd.
Cefyn Burgess: Yn un o gyn-ddetholwyr Y Lle Celf, mae'n adnabyddus am ei waith tecstiliau wedi'u gwehyddu a deunyddiau ar gyfer y cartref.
Ychwanegodd Elfed Roberts: "Dyma bobl sy'n gweithio'n ddiflino drwy'r amser, os yw Eisteddfod ar y gorwel ai peidio.
"Heb y bobl yma, byddai'r ardal yn dipyn tlotach ei diwylliant.
"Rydym yn diolch iddyn nhw i gyd am eu hymroddiad, eu gwaith, eu cefnogaeth a'u brwdfrydedd dros y blynyddoedd.
"Edrychwn ymlaen at gydweithio dros y flwyddyn nesaf wrth i'r Eisteddfod agosáu."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2017
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2017