Cynllun gofal plant am ddim yn 'flêr a dryslyd'

  • Cyhoeddwyd
Sarah Rees a'i merchFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Mae Sarah Rees yn galw am gynnig gofal am ddim i blant sy'n iau na thair oed

Mae cynllun sy'n cynnig gofal plant am ddim yn flêr, dryslyd ac yn anaddas i rieni sy'n gweithio, yn ôl rhai mamau sy'n ei ddefnyddio.

Erbyn 2020 bydd pob plentyn tair a phedair oed yng Nghymru yn gymwys i dderbyn 20 awr o ofal plant am ddim yr wythnos, yn ychwanegol i 10 awr o addysg gynnar.

Ond mae un fam wedi dweud bod polisi Llywodraeth Cymru yn "llanast".

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod wedi derbyn adroddiadau gan rieni yn dweud fod y cynllun yn gwneud "gwahaniaeth gwirioneddol" iddynt.

'Dryslyd i rieni'

Mae Helen Treharne, 43 o Gasnewydd, yn talu rhwng £600 a £750 y mis am ofal i'w mab sy'n ddwy oed mewn meithrinfa breifat.

Dywedodd Ms Treharne, sy'n gweithio tri diwrnod yr wythnos, bod y syniad yn "ffantastig" mewn egwyddor, ond nad yw'n ddigon i alluogi rhieni i fynd yn ôl i'r gwaith.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r 30 awr yn cynnwys dwy ran - 10 awr o addysg ac 20 o ofal mewn meithrinfa

Dywedodd: "Mae'r cynnig 10 awr yn ddibwynt os nad oes gyda chi deulu sy'n gallu pigo i fyny o feithrinfa, neu feithrinfa breifat sy'n gallu pigo i fyny.

"Allwch chi ddim mynd â'ch plentyn am 9:00 ac yna eu pigo nhw i fyny am 11:30 achos 'dy chi yn y gwaith."

Ychwanegodd bod y cynllun, sy'n cynnwys dwy ran, yn "flêr ac yn ddryslyd".

"Mae rhieni'n dweud nad ydyn nhw'n gwybod sut i wneud cais na phryd, na pha feithrinfeydd sy'n cael eu defnyddio.

"Mae'n llanast."

Beth yw'r cynnig gofal plant?

  • Mae pob plentyn eisoes yn cael 10 awr o addysg mewn ysgol neu feithrinfa yn y tymor ar ôl eu pen-blwydd yn dair oed;

  • Cynnig y llywodraeth yw 20 awr ychwanegol o ofal gan ddarparwyr sydd wedi cofrestru gyda'r llywodraeth;

  • Yn ystod gwyliau'r ysgol pan nad yw'r 10 awr o addysg ar gael, bydd 30 awr o ofal ar gael;

  • Mae cynlluniau peilot eisoes wedi dechrau yn Ynys Môn, Gwynedd, Caerffili, Sir y Fflint, Blaenau Gwent, a rhannau o Abertawe a Rhondda Cynon Taf;

  • Ddydd Mawrth cyhoeddodd y llywodraeth y byddai'r peilot yn ehangu i saith ardal arall.

Mae pob rhiant i blentyn tair neu bedair oed yn gallu derbyn y 10 awr o addysg yn barod, ond i gael yr 20 awr o ofal ychwanegol mae'n rhaid i rieni fod yn gweithio o leiaf 16 awr yr wythnos.

Ond yn ôl un fam o Benarth, Bro Morgannwg, nid oedd hi'n gallu fforddio dychwelyd i weithio ar ôl cael plant.

Dywedodd Sarah Rees, arweinydd cangen de Cymru o'r Blaid Cydraddoldeb Merched, y byddai cost gofal plant yn £100 y dydd petai'n mynd yn ôl i weithio, sy'n "dorcalonnus".

"Fe wnes i wario lot ar fy addysg. Roedd pobl yn dweud bod merched yn gallu gwneud unrhyw beth.

"Pam ydyn ni'n dweud hynny wrth ferched pan rydyn ni'n gwybod dydyn nhw ddim?

"Does dim bwlch tâl rhwng y rhywiau - mae'n fwlch magu plant."

Ychwanegodd bod y cynnig yn rhy hwyr i famau: "Erbyn bod eich plentyn yn dair rydych chi eisoes wedi gorfod gadael eich swydd achos ei fod yn anfforddiadwy neu mae gofal wedi ei drefnu.

"Mae angen ei gynnig o naw mis, pan mae cyfnod mamolaeth yn dod i ben ac mae angen cefnogaeth."

'Gwahaniaeth gwirioneddol'

Yn ôl llefarydd ar ran y llywodraeth, gall costau gofal plant fod yn faich gwirioneddol ar deuluoedd sydd â rhieni yn gweithio, ac mai dyma'r rhwystr fwyaf cyffredin i rieni sy'n bwriadu dychwelyd i'r gwaith.

Dywedodd: "Mae rhieni yn dweud wrthym fod y cynllun yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol iddynt, gan leihau'r straen ar incwm teuluol a chreu cyfleoedd i ymuno â'r byd gwaith neu ymestyn oriau gwaith."

Ychwanegodd: "Rydym yn gobeithio gallu ymestyn i fwy o ardaloedd y flwyddyn nesaf, cyn gallu cynnig y cynllun ar draws Cymru gyfan erbyn mis Medi 2020."

"Mae cynnig y cynllun yn fuan yn galluogi ni i weithio gydag awdurdodau lleol ac ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i gryfhau ein dealltwriaeth o anawsterau rhieni sydd yn cydbwyso gwaith, cyfnod sylfaen eu plentyn a gofal plant."