Llai na'r disgwyl wedi cymryd gofal plant am ddim

  • Cyhoeddwyd
Plentyn yn chwarae gyda legoFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

2,000 o blant sydd wedi bod yn rhan o'r cynllun gofal am ddim hyd yn hyn

Mae llai o rieni na'r disgwyl wedi manteisio ar gynllun gofal plant am ddim Llywodraeth Cymru.

Mae ffigyrau ddaeth i law rhaglen Wales Live yn dangos bod llawer llai o wariant na'r disgwyl ar y cynllun peilot.

Saith awdurdod lleol sy'n rhan o'r trefniant, sy'n cynnig 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant tair neu bedair oed sy'n gweithio.

Yn ôl y llywodraeth mae'r nifer sy'n ymwneud a'r cynllun yn "parhau i dyfu".

Tanwario'r cynghorau

Roedd gweinidogion yn bwriadu gwario £10m ar y cynllun yn 2017/18, ond dim ond £3.4m oedd y gwariant ar y cynllun, sydd yn ei le am 48 wythnos o'r flwyddyn.

Abertawe, Rhondda Cynon Taf, Caerffili, Blaenau Gwent, Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn yw'r awdurdodau lleol sy'n cymryd rhan.

Mae'r awdurdodau lleol wedi dweud mai un o'r rhesymau am y tanwario yw bod llai o rieni wedi cymryd rhan na'r disgwyl.

Ffynhonnell y llun, Thinkstock

Bob tro mae plentyn yn defnyddio'r cynllun mae taliad o £4.50 yr awr yn cael ei wneud gan y llywodraeth.

Ym mis Tachwedd y llynedd fe ddywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn disgwyl i "fwyafrif" y £10m o gyllid ar gyfer 2017/18 gael ei wario ar ofal plant, gyda rhywfaint o'r arian ar gyfer gwaith gweinyddu, gwerthuso ac arolygu.

Ond dim ond £2.8m gafodd ei wario ar ofal plant a £550,000 ar weinyddu.

Bwriad Llywodraeth Cymru yw gwario £130m pellach ar y cynllun er mwyn cwrdd â'i hymrwymiad maniffesto i wneud y polisi yn un fydd ar gael ar draws Cymru erbyn 2021.

Ym mis Ebrill dywedodd y llywodraeth bod 2,000 o blant wedi cael gofal plant am ddim trwy'r cynllun.

Pam nad oes mwy wedi manteisio?

Mae'r adborth mae cynghorau wedi ei dderbyn yn awgrymu bod rhai rhieni:

  • Ddim yn ymwybodol neu'n deall manylion yr hyn oedd ar gael;

  • Yn anhapus i'w plant gael gofal gan unrhyw un heblaw am aelodau o'r teulu neu ffrindiau;

  • Wedi penderfynu peidio symud eu plant o lefydd lle roedden nhw'n cael gofal plant yn barod;

  • Ddim yn cymryd mantais o'r cynllun llawn am eu bod yn ei gyfuno gyda gofal arall anffurfiol gan bobl fel teulu a ffrindiau.

Mae'r 30 awr yn golygu bod gan y plant hawl i gael rhwng 10-15 awr o addysg, sydd fel arfer yn cael ei ddarparu gan ysgolion cynradd dros gyfnod o bum niwrnod.

Mae gweddill y gofal plant yn cael ei gynnig gan ddarparwyr cofrestredig sy'n rhan o'r cynllun.

Yn ôl David Dallimore, arbenigwr polisi gofal plant o Brifysgol Bangor, ni fydd y trefniant yn gweithio'r ffordd mae'r llywodraeth wedi darogan.

"Yn nhermau'r nifer sydd wedi cymryd rhan, dwi ddim yn meddwl y byddan nhw yn gwario'r holl arian a dwi ddim yn meddwl y bydd y niferoedd o rieni fydd yn gwneud cais i fod yn rhan o'r cynllun yr hyn roedden nhw'n disgwyl."

Ychwanegodd fod plant tair oed yn cael rhywfaint o addysg yn yr ysgol ac mai dim ond nifer fach o ddarparwyr eraill sy'n gallu cynnig y pecyn llawn.

Cynllun 'uchelgeisiol'

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi dechrau'r cynllun "uchelgeisiol" saith mis yn ôl.

"Mae'r nifer sy'n cymryd rhan yn parhau i dyfu ac fe fydd mwy o ardaloedd newydd yn rhan o'r peilot yn y misoedd sydd i ddod.

"Rydyn ni'n anelu at gyflwyno'r cynnig ar draws Cymru erbyn 2020."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg a phlant, Darren Millar AC, bod cynllun y llywodraeth yn "anhyblyg" ac yn cael ei effeithio gan "ddiffyg gofal cyfleus".

Dywedodd bod "rhaid gweithredu i sicrhau bod rhieni'n ymwybodol o'r cynllun" a chydnabod y rôl mae aelodau teulu'n ei chwarae mewn gofalu am blant.