Ras feicio angheuol: Gollwng achos yn erbyn marsial
- Cyhoeddwyd
Mae'r achos yn erbyn dyn oedd wedi'i gyhuddo o fethu yn ei gyfrifoldebau fel marsial yn dilyn digwyddiad angheuol mewn ras feicio mynydd wedi cael ei ollwng.
Roedd Kevin Duckworth yn gwadu cyhuddiad o fethu â sicrhau iechyd a diogelwch gwylwyr yn y ras yn Sir Ddinbych ym mis Awst 2014.
Bu farw Judith Garrett, 27, wedi iddi gael ei tharo gan feic ar ôl i seiclwr golli rheolaeth yn y digwyddiad ar dir fferm Tan y Graig ger Llangollen.
Fe wnaeth hi daro ei phen ar goeden, gan dorri ei phenglog a chael gwaedlif. Bu farw ddiwrnod yn ddiweddarach.
Roedd yr erlyniad yn honni bod Mr Duckworth wedi methu â thalu sylw i'r hyn oedd yn digwydd ar lwybr y ras yn ystod y digwyddiad.
Ond fore Mawrth fe wnaeth y Barnwr Rhys Rowlands yn Llys y Goron Yr Wyddgrug orchymyn y rheithgor i'w gael yn ddieuog.
Dywedodd: "Fel mater o gyfraith ni fyddai'n bosib i chi (y rheithgor) gael Mr Duckworth yn euog o'r achos roedd yn wynebu."
Mae'r achos yn erbyn trefnydd y digwyddiad, Michael Marsden - sy'n gwadu methu â chynnal y digwyddiad mewn ffordd oedd yn sicrhau nad oedd pobl yn agored i berygl - yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd4 Mehefin 2018