Ymgyrchwyr yn ffyddiog o gael uned cemo newydd i Fronglais
- Cyhoeddwyd
Mae'n ymddangos fod breuddwyd ymgyrchwyr o sefydlu uned cemotherapi newydd yn y canolbarth ar fin cael ei gwireddu - a hynny diolch yn bennaf i gyfraniadau gan elusennau.
Dyw'r newyddion heb gael ei gadarnhau gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda ond y gred yw y bydd uned newydd ar safle Ysbyty Bronglais, Aberystwyth, yn cael ei sefydlu ar gost o tua £1m.
Pe bai'r cynllun yn mynd rhagddo byddai disgwyl i'r uned fod yn barod ymhen rhyw 18 mis.
Dywedodd llefarydd ar ran Bwrdd Iechyd fod y broses o sefydlu uned cemo newydd ar gyfer Bronglais yn bwrw yn ei flaen "ond mae yna beth ffordd eto i fynd."
'Dyblu triniaethau'
Un o'r rhai sy'n gweithio o fewn yr uned ac sydd wedi bod yn codi arian yw'r Dr Elin Jones, ymgynghorydd locwm mewn oncoleg yn Ysbyty Bronglais.
Mae hi'n dweud fod gwaith yr elusennau yn allweddol i'w gobeithion.
"Byddai yna ddim gobaith o gael uned o'r fath oni bai am gyfraniad yr elusennau," meddai Dr Jones.
Cafodd uned cemo bresennol Bronglais ei hagor yn 1980, yr ysbyty cyntaf yng Nghymru y tu allan i Gaerdydd i roi cemotherapi.
Dywedodd Dr Jones y byddai'r safle newydd yn fwy addas i'w bwrpas ac yn dyblu nifer y triniaethau posib.
Ar hyn o bryd mae chwe chadair cemo, ond bydd 10 yn yr adran newydd gyda modd ychwanegu dau le ychwanegol pe bai angen yn y dyfodol.
Mae elusennau wedi bod yn casglu arian ar gyfer yr uned ers dros ddwy flynedd.
"Dio ddim yn gyfrinach y dyddiau yma o ran y bwrdd iechyd - mae'n rhaid i'r bwrdd gael arian elusennol a byddai'r prosiect yma ddim yn mynd yn ei flaen heb yr arian elusennol sydd gyda ni yn barod," meddai Dr Jones.
Mae'n debyg fod elusennau eisoes wedi codi £600,000 o'r arian fyddai ei angen ar gyfer y cynllun.
Mwy o breifatrwydd
Yn ôl Dr Jones y bwriad yw addasu un o'r adeiladau presennol gan roi mwy o breifatrwydd i gleifion.
Byddai cleifion sy'n derbyn triniaeth cemo neu radiotherapi yno yn fwy ynysig o'r cleifion eraill.
"Mae system imiwnedd y claf yn llai effeithiol ar ôl cemo, felly mae'n bwysig nad ydynt yn dod i gyswllt ag afiechydon eraill," meddai Dr Jones.
"Mae cannoedd o gleifion yn dod trwy ein drysau pob blwyddyn ac ar y funud maen nhw'n cael eu triniaeth yn yr adran ffisiotherapi.
"Mae nifer y cleifion hefyd yn cynyddu a nifer y triniaethau sydd ar gael yn cynyddu felly er mwyn sicrhau'r gwasanaeth ar gyfer y dyfodol mae'n rhaid cael rhywle i roi'r driniaeth."
Mae Ysbyty Bronglais yn rhoi triniaeth cemotherapi i ardal sy'n ymestyn o Ddinas Powys yn y gogledd, i Aberteifi yn y de ac i Gaersws yn y dwyrain.
Un o'r rhai sydd wedi cael canser y fron ac wedi derbyn triniaeth cemotherapi ym Mronglais yw Eira Henson.
"Mae tua 40 ohonom ni mewn grŵp o'r enw Ar Dramp Dros Driniaeth yn codi arian, ac achos fy mod wedi cael triniaeth fy hunain ym Mronglais oedd e'n eithaf agos at fy nghalon," meddai.
"Felly oedd e'n bwysig i mi i helpu i godi arian at yr uned, a ni wedi codi dros £40,000 gan bobl leol sydd wedi bod yn garedig iawn.
"Chi'n cael y cemotherapi yn y neuadd, gyda phobl yn cerdded nôl a 'mlaen, a phan nad ydych yn teimlo yn hwylus, chi jest mo'yn llonydd."
Dywedodd Peter Skitt, cyfarwyddwrdd Ceredigion Bwrdd Iechyd Hywel Dda: "Mae grŵp prosiect ar hyn o bryd yn gweithio gyda staff, meddygon a nyrsys, a rhanddeiliad i sicrhau model addas ar gyfer triniaeth cemo yn yr ysbyty ac rydym yn gobeithio cyflwyno darlun mwy cyflawn yn yr hydref.
"Rydym yn ffodus o fod wedi derbyn cyfraniadau hael gan gymunedau lleol gan gynnwys cyn gleifion wrth geisio sefydlu uned cemo nwydd ym Mronglais ac rydym wedi llwyr ymroi i ddatblygu prosiect fydd yn gwella'r gofal ac amgylchiadau ein cleifion."