'Cannoedd' yn pryderu wedi cynnydd rhent cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Dywedodd Bethan Sayed nad oedd cymdeithasau tai wedi cyfiawnhau'r cynnydd mewn rhent i denantiaid

Mae elusen yn dweud eu bod wedi derbyn galwadau gan "gannoedd ar gannoedd" o denantiaid sy'n pryderu am gynnydd mewn rhent tai cymdeithasol.

Dywedodd Shelter Cymru wrth raglen Eye on Wales bod y cynnydd yn dilyn newid i'r fformiwla sy'n gosod prisiau rhent, sydd wedi galluogi i landlordiaid godi rhent o tua £300 y flwyddyn ers mis Ebrill.

Mae un tenant wedi dweud y gallai fod yn ddigartref erbyn y flwyddyn nesaf os oes cynnydd eto.

Mae Llywodraeth Cymru'n dweud eu bod wedi gofyn i landlordiaid ystyried y chwyddiant arweiniodd at y cynnydd, a pha mor fforddiadwy yw'r cynnydd i denantiaid.

Dywedodd Cartrefi Cymunedol Cymru bod aelodau wedi ceisio cydbwyso rhent fforddiadwy ac addewid i sicrhau bod mwy o dai ar gael.

'Gall fod yn anodd iawn'

Ers pum mlynedd mae cynnydd mewn rhent cymdeithasol wedi ei reoli gan fformiwla gafodd ei gytuno gan y llywodraeth a landlordiaid.

Mae'n defnyddio cyfradd chwyddiant y mynegai prisiau defnyddwyr (CPI), ac yn adio 1.5%. Gall landlordiaid hefyd ychwanegu £2 yr wythnos.

Llynedd roedd chwyddiant yn 3%, gan olygu bod uchafswm y cynnydd mewn rhent yn 4.5% a £2 yr wythnos.

Pan gafodd denantiaid wybod am y newid, dywedodd cyfarwyddwr Shelter Cymru, John Puzey, bod "cannoedd ar gannoedd" o alwadau i'r llinnell gymorth.

"Mae rhent yn fforddiadwy, neu'n anfforddiadwy, mewn perthynas ag incwm pobl ac os ydych chi wedi bod ar incwm sy'n aros yn stond am gwpl o flynyddoedd neu os ydych chi wedi cael toriad i'ch budd-daliadau yna gallai'r cynnydd fod yn anodd iawn i chi."

Mae ymchwil gan raglen Eye on Wales wedi darganfod bod o leiaf dau gyngor yng Nghymru - Abertawe a Chaerdydd - wedi cynyddu o'r uchafswm posib, gyda'r potensial i ychwanegu hyd at £300 y flwyddyn i gost rhent.

Hefyd fe wnaeth llefarydd Plaid Cymru ar dai, Bethan Sayed, ysgrifennu at bob cymdeithas dai yng Nghymru i ddarganfod sut aethon nhw o gwmpas y gwaith o osod rhent.

O'r 27 wnaeth ymateb, roedd 11 wedi cynyddu rhent o'r 4.5% llawn.

Dywedodd: "Mae angen iddyn nhw drafod yn gynhwysfawr gyda'r tenantiaid pam bod nhw'n gwneud hynny, a chyfiawnhau pam bod angen gwneud hynny mewn cyfnod lle mae pobl yn gwynebu achosion ariannol..."

'Lot o straen, diffyg cwsg'

Ers i Sharon White symud i dŷ cyngor ym Mhenarlâg, Sir y Fflint, 18 mis yn ôl, mae ei rhent wedi cynyddu ddwywaith.

"Mae'n cyrraedd y pwynt rŵan bod bwyd yn dod yn llai o flaenoriaeth gan fod y rhent wedi cynyddu gymaint mewn cyfnod mor fyr.

"Mae'n achosi lot o straen, diffyg cwsg.

"Mae fy meddyginiaeth wedi mynd i fyny achos y straen, y poeni - yn meddwl adeg yma'r flwyddyn nesa', allwn ni fod yn ystyried bod yn ddigartref os ydy'r rhent yn cynyddu eto, dyna yw'r realiti."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Stuart Ropke bod angen cydbwyso anghenion tenantiaid a'r angen i gynnal stoc o dai o safon

Ond mae prif weithredwr Cartrefi Cymunedol Cymru wedi amddiffyn aelodau'r gymdeithas.

Dywedodd Stuart Ropke bod cymdeithasau tai wedi "ystyried yn ofalus iawn" unrhyw gynnydd, er mwyn "cydbwyso anghenion tenantiaid presennol a'r angen i gynnal cartrefi diogel, cynnes a sefydlog, ond yr angen hefyd i adeiladu tai newydd".

Dywedodd llefarydd ar ran Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod cynghorau angen "cydbwyso ystod eang o ffactorau" sy'n cynnwys cynnal safon tai ac adeiladu cartrefi newydd.

Mae'r fformiwla sy'n penderfynu ar gynnydd i lefelau rhent bellach yn cael ei adolygu, a dywedodd gweinidog tai Cymru, Rebecca Evans ei bod "deall bod penderfyniadau anodd iawn" i'w gwneud gan landlordiaid cymdeithasol, i "gydbwyso fforddiadwyedd ar un llaw a chynlluniau busnes ar y llaw arall".