'Monitro' tân mynydd yng Nghwm Rheidol ger Aberystwyth
- Cyhoeddwyd
Mae diffoddwyr tân yn y canolbarth yn parhau i ddelio â thân ar dir yng Nghwm Rheidol, i'r dwyrain o Aberystwyth.
Cafodd Gwasanaeth Tân ac Achub y Canolbarth a'r Gorllewin eu gyrru i'r tân gwair, sydd mewn man anghysbell ger cledrau Rheilffordd y Rheidol, am 11:29 fore Mawrth.
Dywedodd y gwasanaeth fod criw wedi aros ar y safle dros nos, a bod hofrennydd bellach wedi gollwng 30 tunnell o ddŵr o gronfa gyfagos er mwyn ceisio diffodd beth sy'n weddill o'r tân.
Fore Mercher dywedodd rheolwr gorsaf Aberystwyth, Arwel James bod y tân wedi lledu i 15 hectar o dir serth sy'n ei gwneud hi'n "anodd cael ein hadnoddau i'r safle".
"Mae'n ardal brydferth iawn, yn anffodus nid oes mynediad hawdd i griwiau gael i mewn."
Mae un criw o ddiffoddwyr yn parhau ar y safle yn huddo'r tân, gyda'r hofrennydd bellach yn diffodd mannau poeth sy'n weddill.
Bu'n rhaid i gwmni Rheilffordd y Rheidol, a oedd wedi rhedeg eu gwasanaeth 10:30 i fyny i Bontarfynach, anfon bysiau i 'nôl y teithwyr am nad oedd y trên yn gallu dychwelyd i Aberystwyth.
Dywedodd llefarydd ar ran y cwmni eu bod wedi anfon eu gweithwyr cynnal a chadw i'r safle i gynorthwyo'r diffoddwyr tân gyda'u gwaith.