Galw am blismona llefydd parcio anabl wedi 14,000 cosb

  • Cyhoeddwyd
Joyce Evans
Disgrifiad o’r llun,

Mae Joyce Evans o Aberystwyth yn ei chael hi'n anodd cerdded felly mae parcio'n agos at siop yn bwysig iddi

Mae'n rhaid gwneud mwy i atal pobl "di-feddwl" rhag parcio'n anghyfreithlon mewn ardaloedd bathodynnau glas, yn ôl Anabledd Cymru.

Fe gafodd dros 14,000 o hysbysiadau cosb eu cyflwyno gan awdurdodau lleol Cymru rhwng 2017 a 2018.

Mae'r ffigwr yn gynnydd o'i 10% o gymharu â 2014.

Yn ôl y cynghorau sir, mae'r cynnydd yn dod wrth i'r awdurdodau geisio atal trafferthion parcio i yrwyr anabl.

Nawr mae elusen Anabledd Cymru yn galw ar yr awdurdodau i "blismona'r peth hyd yn oed mwy".

Daw'r ffigyrau gan 15 o 22 cyngor Cymru sy'n delio â materion parcio eu hunain, oedd â'r data perthnasol ar gael rhwng 2013-14 a 2017-18.

Grey line

Caerdydd oedd yr awdurdod i gyflwyno'r nifer uchaf o ddirwyon - 3,100 i gyd.

Yn Abertawe, bu cynnydd o 158% yn nifer y dirwyon, gyda chyfanswm o bron i 2,200.

Yn drydydd ar y rhestr oedd Sir Ddinbych gyda 1,892 o ddirwyon. Ond mae'r ffigwr yn ostyngiad o 25% ers 2016.

Yng Ngheredigion, dim ond 128 o ddirwyon gafodd eu prosesu y llynedd.

Mae'r awdurdodau lleol yn dweud bod cynnydd i'w weld wrth i gynghorau geisio atal yr effaith mae parcio anghyfreithlon yn ei gael ar yrwyr anabl.

Grey line
Tocyn parcio anabl
Disgrifiad o’r llun,

Mae tocyn parcio anabl yn rhoi hawl i'r unigolyn sy'n dal y bathodyn barcio mewn mannau penodedig

Mae Joyce Evans yn byw yn Aberystwyth ac yn dioddef o grud y cymalau a haint hirdymor ar ei phengliniau.

Dydy hi ddim yn gallu cerdded yn bell, ond mae'n teithio yn y car yn aml.

"Rydych chi'n gweld pobl yn parcio mewn lle anabl ac yn rhedeg i'r siop... Wy'n dweud wrthyn nhw, 'esgusodwch fi, chi wedi parcio mewn lle anabl', a licen i ddim gweud be' maen nhw'n dweud nôl.

"Heblaw am le addas, bydden ni methu mynd i'r dre' na mynd i siopa. Bydden ni methu gwneud dim ac mae cael annibyniaeth mor bwysig i fi."

Ychwanegodd: "Dydy bobl ddim yn gwerthfawrogi'r ymdrech sy'n rhaid i berson anabl wneud er mwyn cerdded o'r car i'r siop."

Mae Delwyn Evans, sy'n byw yn Nolgellau, yn llefarydd ar ran Anabledd Cymru: "Mae mor annheg o bobl i barcio mewn llefydd anabl ac i beidio meddwl am bobl eraill.

"Di-sylw a di-feddwl ydyn nhw. Mae'n rhaid i'r awdurdodau lleol blismona'r peth hyd yn oed mwy."