Pleidlais o ddiffyg hyder yn Alun Cairns yn methu

  • Cyhoeddwyd
alun cairns

Mae pleidlais o ddiffyg hyder yn Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns AS, wedi methu.

Cafodd y cynnig ei gyflwyno gan Blaid Cymru ar ôl i'r Llywodraeth yn San Steffan benderfynu ddydd Llun i beidio â chefnogi Cynllun Morlyn Abertawe.

Ond methodd y bleidlais, am na chafodd gefnogaeth aelodau Llafur y Cynulliad.

Fe wnaeth naw AC bleidleisio o blaid y cynnig, gyda 40 yn gwrthwynebu.

Cynnig symbolaidd oedd hwn, serch hynny, am nad oes gan ACau yr hawl i ddisodli Mr Cairns gan nad yw'n aelod o'r Cynulliad.

Roedd y cynnig yn nodi y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol ddatgan "nad oes ganddo bellach hyder yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni prosiectau seilwaith mawr, yn dilyn penderfyniad Llywodraeth San Steffan i beidio â chefnogi morlyn llanw Bae Abertawe".

Yn ogystal â hynny, roedd yn datgan "nad oes ganddo hyder yn swydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac yn credu y dylai'r swydd gael ei dileu a'i disodli gan gyngor Gweinidogion y DU, wedi'i gyfansoddi'n briodol gyda phwerau cyfartal i wneud penderfyniadau ar y cyd".