Taith dau athro i 'ddisgybl arbennig'
- Cyhoeddwyd
Mae dau athro o Fae Colwyn yn seiclo 114km rownd un o atyniadau naturiol mwyaf poblogaidd y gogledd er mwyn codi arian i un o'u disgyblion gael beic arbennig.
Mae Hayden Holding, sy'n saith oed ac yn ddisgybl yn Ysgol Nant y Groes, Bae Colwyn yn dioddef o barlys yr ymennydd a dydi o erioed wedi reidio beic o'r blaen.
Gyda ffrindiau Hayden yn seiclo i'r ysgol yn ddyddiol, roedd Hayden yn colli allan gan nad oes ganddo feic arbennig tair olwyn.
O ganlyniad, mae dau athro yn yr ysgol, Martin Jackman a Alex Williams wedi penderfynu neidio ar eu beiciau ei hunain a seiclo rownd y Gogarth yn Llandudno 10 gwaith i gasglu arian at achos Hayden.
Mae'r daith yn cyfateb i 114km a bydd y ddau yn dringo cyfanswm o 4,500 troedfedd i gopa'r Gogarth 10 gwaith, ac yn casglu arian oddi ar ymwelwyr yn y broses.
Y gobaith yw casglu'n agos i £1,200 er mwyn galluogi rhieni Hayden i fynd ati i brynu beic newydd arbenigol i'w mab.
Dywedodd Jamie Holding, tad Hayden ei fod yn ddiolchgar iawn i'r ysgol a'r ddau athro am eu caredigrwydd.
"Y cyfan mae Hayden erioed eisiau gwneud yw reidio beic, yn anffodus oherwydd ei anabledd dydi o heb allu gwneud hynny," meddai.
"Ond diolch i garedigrwydd yr ysgol a'i athrawon, rydym gam yn agosach at allu prynu beic arbennig, tair olwyn i Hayden, ac mae o wrth ei fodd y byddai'n gallu ymuno a'i ffrindiau mewn gweithgareddau beicio yn yr ysgol yn y dyfodol."
Cyn cychwyn ar y daith rownd y Gogarth dywedodd Mr Jackman wrth BBC Cymru Fyw: "Rydym yn hynod ddiolchgar i'r rhieni a disgyblion Ysgol Nant y Groes sydd wedi cyfrannu at achos Hayden i gael beic newydd.
"Mae'n ddisgybl arbennig, wastad yn hapus ac rydw i a Mr Williams yn falch iawn o gael bod yn rhan o'r ymgyrch i'w gael i reidio beic am y tro cyntaf."