Sêr ifanc y Steddfod: Gwobr Richard Burton

  • Cyhoeddwyd

Bob blwyddyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol, mae rhai o actorion ifanc mwyaf addawol y wlad yn cystadlu am y fraint o ennill Gwobr Richard Burton.

Mae hon yn gystadleuaeth o safon uchel - ond a yw'r enillwyr yn mynd ymlaen i brofi llwyddiant yn eu gyrfa?

Dyma gipolwg ar rai o'r cyn-enillwyr.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Daniel Evans wobr Richard Burton yng Nghwm Rhymni 1990 - y flwyddyn gyntaf i'r wobr gael ei rhoi. Roedd ond yn 17 oed. Mae wedi actio'n helaeth ar y teledu, ar lwyfan a'r sgrin fawr, ond y dyddiau yma, mae'n gwneud mwy o waith cyfarwyddo - ef yw cyfarwyddwr artistic Chichester Festival Theatre.

Disgrifiad o’r llun,

Yn Eisteddfod Nedd a'r Cyffiniau yn 1994, yr enillydd oedd Bethan Ellis Owen. Bethan sy'n chwarae Ffion ar Pobol y Cwm - cymeriad sydd wedi bod drwy'r felin gyda phroblemau ag alcohol, salwch ei merch ac ambell i dor-calon.

Ffynhonnell y llun, BBC/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr yn 1996, gwnaeth y beirniaid y penderfyniad annisgwyl i rannu'r wobr rhwng dau actor. Mae Manon Ellis wedi bod ar ein sgriniau bob nos Fawrth a Iau ar Rownd a Rownd yn chwarae y Michelle gegog ers blynyddoedd, ond mae'r cymeriad newydd adael i ddechrau ar fywyd newydd yng Nghasnewydd.

Ffynhonnell y llun, BBC/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dyfrig Evans, y cyd-enillydd o Eisteddfod 1996 yn gyfarwydd i nifer fel actor a cherddor. Mae wedi actio mewn cyfresi teledu fel Rownd a Rownd, Y Gwyll a Darren Drws Nesa'. Ef yw prif leisydd y band Topper, oedd yn canu yn y 90au, ac sydd wedi ailffurfio yn ddiweddar.

Disgrifiad o’r llun,

Yr enillydd yn Eisteddfod Bro Ogwr yn 1998 oedd Carys Parry o Gwm Rhondda. Mae Carys bellach wedi symud o'r llwyfan i'r byd athletau ac wedi cynrychioli Cymru yng Ngemau'r Gymanwlad bedair gwaith am daflu'r morthwyl, gan gynnwys gemau'r Arfordir Aur 2018. Enillodd fedal arian yng ngemau Delhi yn 2010.

Disgrifiad o’r llun,

Yn Eisteddfod 2001 yn Ninbych, enillydd y wobr oedd Owain Arthur, ac roedd yn wyneb cyfarwydd i nifer am actio Aled yn Rownd a Rownd. Yn 2012, actiodd y brif ran yn y ddrama 'One Man, Two Guvnors', ar ôl i James Corden orffen yn y rôl, ac ynghyd ag amryw o rannau eraill, yn ddiweddar bu'n chwarae Glen ar 'Casualty'.

Ffynhonnell y llun, BBC/Ant Robling Photography
Disgrifiad o’r llun,

Yng Nghasnewydd yn 2004, Dyfan Dwyfor ddaeth i'r brig. Ers hynny, mae Dyfan wedi actio'n helaeth ar lwyfan ac ar sgrin, yn Gymraeg a Saesneg. Roedd yn y ffilm Y Llyfrgell yn 2016, oedd yn addasiad o nofel Fflur Dafydd, ac yn ystod haf 2018, mae'n actio'r prif gymeriad yn nrama Shakespeare 'Richard III' mewn theatr pop-yp yng Nghaerefrog, Rose Theatre.

Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Gwawr Loader yn 2006 yn Abertawe. Ers ennill, mae hi wedi cyflwyno, canu ac actio mewn amryw gynyrchiadau a rhaglenni teledu. Bellach, mae hi yn un o Bobol y Cwm yn actio Non, merch gyfrinachol Dyff Jones.

Disgrifiad o’r llun,

Garmon Rhys oedd enillydd y wobr yn 2011, yn Eisteddfod Wrecsam a'r Fro. Yn ddiweddar, mae wedi bod ar ein sgriniau yn actio PC Ryan Davies yn y gyfres Craith ar S4C, a'r fersiwn Saesneg ohoni ar y BBC, 'Hidden'.

Ffynhonnell y llun, BBC/S4C
Disgrifiad o’r llun,

Yr enillydd yn Eisteddfod 2016 yn Y Fenni oedd Rebecca Hayes. Y llynedd, chwaraeodd hi'r cymeriad Mel yn y gyfres lwyddiannus a phoblogaidd ar S4C ynglŷn ag ochr dywyll Port Talbot, Bang. Mae hi hefyd yn aelod o'r grŵp Cadno.

Hefyd o ddiddordeb:

Mae cystadleuaeth Gwobr Richard Burton 2018 yn cael ei chynnal nos Fercher 8 Awst.