Brexit: Pryder am fethaint trafodaethau ar ffin Iwerddon

  • Cyhoeddwyd
Ffin IwerddonFfynhonnell y llun, PA

Mae cyn-weinidogion Gogledd Iwerddon sy'n dod o Gymru wedi codi pryderon am fethiant sgyrsiau Brexit i gyrraedd cytundeb ar y ffin yn Iwerddon.

Dywedodd yr Arglwydd Hain y byddai methu â tharo bargen "yn gyrru cyllell i galon y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon".

Bu e a'r Arglwydd Murphy yn siarad â BBC Cymru cyn uwchgynhadledd dau ddiwrnod o arweinwyr yr UE ym Mrwsel.

Mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud eu bod yn anelu at gynnal ffin ddirwystr rhwng Gogledd Iwerddon a'r Weriniaeth yn dilyn Brexit.

Mae'r Undeb Ewropeaidd yn cytuno na ddylid cael ffin galed ond yn anghytuno ar sut i gyflawni hynny.

Mae trafodwyr ym Mrwsel yn dweud nad yw addewid Theresa May o barhau gyda ffin feddal yn cyd-fynd â'i nod o adael undeb tollau a marchnad sengl yr undeb, tra hefyd osgoi ffin ym môr Iwerddon rhwng Cymru, Lloegr a'r Alban ar yr un ochr ac ynys Iwerddon ar y llall.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Arglwydd Hain bod "rhaid i rywbeth newid yn Llundain" er mwyn gallu cyrraedd cytundeb

Rhybuddiodd Gweinidog Tramor Iwerddon, Simon Coveney ym mis Ebrill y byddai "anawsterau" ym mhroses Brexit pe na bai cynnydd sylweddol yn cael ei wneud ar y pwnc erbyn yr uwchgynhadledd hon.

Ond roedd Ysgrifennydd Brexit Llywodraeth y DU wedi beirniadu Mr Coveney am greu "dyddiad terfynol artiffisial".

Dywedodd yr Arglwydd Hain: "Rwy'n credu y byddwn yn cael argyfwng ar ôl argyfwng hyd nes y bydd y llywodraeth yn edrych dros y dibyn yn y pen draw, ac y byddan nhw naill ai'n wynebu ymadawiad llethol gydag effaith ofnadwy ar swyddi Cymreig fel Airbus… neu yn dod i drefniant synhwyrol sy'n dyblygu'n union yr un cytundeb masnachu o ran y farchnad sengl a'r undeb tollau sydd gennym nawr - nid yn unig ar gyfer Cymru ond i gadw ffin Iwerddon yn agored hefyd."

Dywedodd cyn-ysgrifennydd Cymru a Gogledd Iwerddon bod "rhaid i rywbeth newid yn Llundain" er mwyn gallu cyrraedd cytundeb.

'Y mater pwysicaf'

Ychwanegodd cyn-arweinydd ymgyrch Llafur Cymru dros yr Undeb Ewropeaidd yn ystod y refferendwm: "Mae ffin Iwerddon yn hollbwysig i'r warant a roddir fel rhan o Gytundeb Gwener y Groglith o heddwch a chynnydd ar ynys Iwerddon heb ddychwelyd i arswyd y gorffennol.

"Mae'n bwysig oherwydd ei fod yn ffin anweledig. Fe fyddai effeithio ar hynny mewn unrhyw ffordd yn gyrru cyllell i galon y broses heddwch yng Ngogledd Iwerddon.

"Dyna'r mater pwysicaf ar yr agenda Brexit gyfan yn fy marn i."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Arglwydd Murphy bod angen trafod y ffin gyda Llywodraeth Iwerddon

Dywedodd ei gyd-aelod Llafur Cymru o Dŷ'r Arglwyddi, yr Arglwydd Murphy: "Rwy'n credu bod rhaid iddynt ddechrau cymryd rhan mewn trafodaethau difrifol rhwng llywodraethau Iwerddon a Phrydain oherwydd, er yn dechnegol y DU a'r UE sy'n trafod, y bobl sy'n gwybod fwyaf am y ffin yw'r bobl hynny sy'n byw yn Iwerddon.

"Mae'n ymddangos i mi ei fod yn fater anodd iawn, ac os na chaiff ei ddatrys, mae yna bob math o broblemau - nid rhai economaidd yn unig ond rhai gwleidyddol fydd hefyd.

"P'un ai yw pobl wedi meddwl digon am hyn, dydw i ddim yn credu eu bod nhw a bod yn onest, ond erbyn hyn mae'n well iddyn nhw ddechrau o ddifrif."