Y Ceidwadwyr Cymreig 'angen arweinydd Ewrosgeptig'
- Cyhoeddwyd
Rhaid i arweinydd nesa'r Ceidwadwyr Cymreig adlewyrchu safbwyntiau Ewrosgeptig aelodau llawr gwlad y blaid, medd cyn-Ysgrifennydd Cymru, David Jones.
Dywedodd Mr Jones ei bod hi'n bwysig bod gornest i olynu Andrew RT Davies, wedi iddo gyhoeddi ei ymddiswyddiad ddydd Mercher.
Yn y cyfamser, dywedodd cyn-gynorthwyydd i Mr Davies ei fod wedi ei gyfyngu fel arweinydd oherwydd y modd roedd y blaid yn cael ei rheoli.
Paul Davies - Aelod Cynulliad Preseli Penfro a gefnogodd yr ymgyrch dros aros yn yr Undeb Ewropeaidd - sy'n arwain y grŵp yn y Cynulliad dros dro, ac mae eisoes wedi dweud y byddai'n hoffi gwneud y swydd yn barhaol.
Dywedodd Mr Jones, Aelod Seneddol Gorllewin Clwyd, y dylid cynnal etholiad ar yr arweinyddiaeth, ac y gallai Andrew RT Davies - sy'n cefnogi Brexit - fod yn ymgeisydd.
Ychwanegodd: "Mae'n ddrwg gen i fod Andrew wedi teimlo'r angen i ymddiswyddo.
"Mae wedi gwneud gwaith da dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae wedi adlewyrchu safbwynt y blaid Gymreig yn ei chyfanrwydd, sy'n Ewrosgeptic iawn, ac roedd yn falch o weld canlyniad y refferendwm, oedd yn arbennig o gryf yng Nghymru.
"Dwi'n credu y dylai ei olynydd gael ei ddewis mewn etholiad gan y blaid yng Nghymru, yn unol â rheolau'r blaid, a wela i ddim rheswm... pam na all Andrew fod yn ymgeisydd yn yr etholiad."
Dylai'r arweinydd nesaf fod "yn rhywun sy'n adlewyrchu'r blaid yn ei chyfanrwydd", meddai.
Hyd yma, does neb wedi dweud y byddan nhw'n ymgeisio yn erbyn Paul Davies.
Gwrthododd ef â chadarnhau ei fod wedi siarad ag Andrew RT Davies rai wythnosau'n ôl i'w annog i ymddiswyddo.
Yn ei ddatganiad ddydd Mercher, dywedodd Andrew RT Davies: "Fy marn yw y dylai Arweinydd Grŵp y Cynulliad gael yr un mandad mewn pleidlais lawn ar lawr gwlad, a dwi'n gobeithio y bydd fy olynydd yn cael ei ddewis felly."
'Rhyddid i arwain'
Dywedodd Anthony Pickles, pennaeth staff yr arweinydd rhwng 2012 a 2015, fod cyfyngiadau wedi bod ar Mr Davies fel arweinydd: "Mae'r syniad y dylai polisïau gael eu penderfynu gan ryw fwrdd dirgel rhywle, sy'n cynnwys Aelodau Seneddol Ewropeaidd a phobl eraill, yn anghywir.
"Beth am gael gwared â'r teitl chwerthinllyd 'Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yn y Cynulliad ac Arweinydd yr Wrthblaid'? Fyddai hynny ddim yn ffitio ar gerdyn busnes.
"Beth am gydnabod mai pwy bynnag sy'n cael ei ethol gan yr aelodaeth yng Nghymru yw'r arweinydd? Rhowch fandad iddyn nhw a'r rhyddid iddyn nhw arwain."
Dywedodd Janet Finch Saunders AC ei bod yn siomedig fod Mr Davies wedi ymddiswyddo a bod rhai aelodau mewn "sioc".
"Dydy'r trafferthion diweddar ddim wedi bod yn bleserus ac rwy'n gobeithio y bydd undod nawr i bwy bynnag fydd yn arwain y grŵp," meddai.
Ychwanegodd fod "dylanwadau allanol" diweddar wedi bod yn "ddiangen ac amhriodol" - mae'n ymddangos bod y sylw'n cyfeirio at sylwadau AS Aberconwy Guto Bebb, feirniadodd Mr Davies am ei sylwadau am Airbus.
Dywedodd Ms Finch-Saunders bod aelodau wedi bod mewn cysylltiad â hi yn gofyn am bleidlais, a wnaeth hi ddim diystyru'r posibilrwydd o sefyll ei hun.
Pan ofynnwyd iddi a ddylai enw menyw gael ei gynnwys ar y papur pleidleisio, dywedodd: "Ddylen ni ddim cymryd yn ganiataol na fydd yna gais i ddynes gynnig ei henw."
Brwydr
Mae un arall o ACau'r Ceidwadwyr, Mark Isherwood, wedi dweud fod aelodau cyffredin wedi bod yn "bombardio" ffigyrau amlwg o fewn y blaid i sicrhau bod brwydr i olynu Andrew RT Davies.
Fe fydd swyddogion y blaid yn cyfarfod yn y dyddiau nesaf i benderfynu ar amserlen ar gyfer y ras arweinyddol.
Does neb wedi dweud hyd yn hyn eu bod yn dymuno sefyll yn erbyn Paul Davies, sydd wedi cadarnhau fod ganddo ddiddordeb yn y swydd a bod ganddo gefnogaeth ACau eraill.
Yn y cyfamser mae ffynhonnell yn agos at Andrew RT Davies wedi dweud wrth BBC Cymru: "Fe wnaeth Andrew ddewis croesi'r ffordd yn saff gan ddefnyddio'r groesfan sebra yn hytrach na sefyll ar ymyl y palmant yn aros i gael ei wthio dan y bws nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd27 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018