Pryder am ddyfodol porthladd Abergwaun

  • Cyhoeddwyd
Abergwaun

Mae arbenigwr ar borthladdau Cymru wedi dweud wrth Newyddion 9 fod penderfyniad Stena Line i beidio â buddsoddi £5m ym mhorthladd Abergwaun "yn codi cwestiynau" am strategaeth y cwmni yno yn y dyfodol.

Dywedodd y Dr Andrew Potter o Brifysgol Caerdydd y gallai dyfodol Abergwaun fod dan fygythiad oherwydd cystadleuaeth o lwybrau eraill, yn ogystal ag effaith Brexit: "Mae yna botensial o gystadleueath o Weriniaeth Iwerddon gyda llwybrau uniongyrchol i Ffrainc a Sbaen.

"Mae yna hefyd gystadleuaeth o Ddoc Penfro.

"Mae'r ddau lwybr yn cystadlu a'i gilydd, ac mae'n rhaid i Stena edrych ar lwybr Caergybi, sef y prif lwybr ar draws Mor Iwerddon.

"Mae'n bosib eu bod nhw'n cadw'u harian yn ol ar cyfer Caergybi, ar draul Abergwaun."

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cynghorydd Pat Davies yn poeni am ddyfodol porthladd Abergwaun

Dywedodd un cynghorydd lleol, Pat Davies, fod penderfyniad Stena Line i beidio â bwrw mlaen a chynllun Linkspan yn achos pryder mawr iddi: "Dwi'n nabod llawer o deuluoedd ifanc sy'n cael eu cyflogi yno.

"Mae gyda ni aelod o'n teulu sy'n cael ei gyflogi yno, ac mae'n amser pryderus iawn.

"Does dim dewis cyflogaeth arall yn ein hardal ar y raddfa yna."

Pan ofynwyd iddi beth fyddai'n digwydd petai Stena Line yn penderfynu gadael Abergwaun, atebodd: "Fedra i ddim dioddef meddwl am y peth a bod yn onest, ac mae pobl eraill yn y gymuned yn teimlo'r un fath."

Mae Stena Line wedi cael cais i ymateb i'r pryderon, ond dydy eu cwmni cysylltiadau cyhoeddus, sydd wedi ei leoli yn Iwerddon, ddim wedi ymateb i'r ymholiadau.