Cyngor Gwynedd wedi 'dysgu gwersi' o lythyr i staff

  • Cyhoeddwyd
cyngor gwyneddFfynhonnell y llun, Google

Mae swyddogion Cyngor Gwynedd yn dweud bod "gwersi wedi'u dysgu" ar ôl gorfod ymddiheuro am lythyr "bygythiol" gafodd ei anfon i'w 6,000 o staff.

Cafodd y llythyr, oedd yn trafod newidiadau i amodau gwaith, ei anfon ar 26 Mawrth gan fygwth diswyddo gweithwyr os nad oedden nhw'n arwyddo cytundeb newydd.

Fe wnaeth hynny gythruddo staff, cynghorwyr ac undebau, oedd wedi bod mewn trafodaethau â'r cyngor ers 2015.

Ymhlith y newidiadau arfaethedig gan y cyngor roedd cynnig i ddileu tâl ychwanegol am weithio oriau rhwng 20:00 a 22:00, a chwtogi taliadau ar-alw o £265.88 i £200 yr wythnos.

'Gofid diangen'

Roedd y llythyr i staff yn dweud y byddai eu "cytundebau gwaith presennol yn dod i ben" ar 30 Mehefin os nad oedden nhw'n dewis derbyn y telerau newydd oedd yn cael eu cynnig.

Ond yn ystod cyfarfod o bwyllgor archwilio a llywodraethiant y cyngor ddydd Gwener, fe gyfaddefodd swyddogion fod geiriad yr ohebiaeth honno'n "anffodus".

Mewn adroddiad gan y Pennaeth Cymorth Corfforaethol, Geraint Owen, i gynghorwyr dywedwyd bod £1,938 wedi ei wario ar anfon y llythyrau, er bod yr holl staff hefyd wedi derbyn copïau electronig.

"Rydym yn derbyn fod geiriad y llythyr gwreiddiol yn llawdrwm ac y gallai'r wybodaeth fod wedi cael ei gyfathrebu'n well," meddai Mr Owen yn yr adroddiad.

Ers hynny, meddai Mr Owen, mae'r cyngor a'r undebau wedi cyfarfod sawl gwaith a chael trafodaethau "adeiladol", a bydd pleidlais ymhlith aelodau Unsain, GMB ac Unite ar y telerau yn digwydd yn fuan.

Dywedodd llefarydd ar ran yr undebau eu bod yn derbyn fod awdurdodau lleol yn brin o arian oherwydd toriadau gan Lywodraeth y DU, ond bod "cosbi staff cyngor sydd ar gyflogau isel ddim yn dderbyniol".

Yn ôl Cyngor Gwynedd fe fyddai'r newidiadau yn golygu arbedion o £450,000, gan olygu y gallen nhw warchod 20 o swyddi llawn amser.

Fe wnaeth Mr Owen gydnabod fod y llythyr wedi peri pryder i rai staff, a bod angen "taro cydbwysedd rhwng darparu gwybodaeth i'r gweithlu ac achosi gofid diangen".