Gwyrddion Cymru i bleidleisio ar dorri'n rhydd o Loegr
- Cyhoeddwyd

Dywedodd Grenville Ham
Bydd y Blaid Werdd yng Nghymru yn cynnal peidlais ar dorri'n rhydd o'r Blaid Werdd yn Lloegr ymhen pythefnos.
Ar hyn o bryd, mae'n un blaid - Plaid Werdd Cymru a Lloegr - ond mae eu harweinydd yng Nghymru'n gobeithio y bydd aelodau'n cefnogi cynlluniau i sefydlu plaid annibynnol tebyg i Blaid Werdd yr Alban.
Dywedodd Grenville Ham ar raglen Sunday Supplement ar BBC Radio Wales fod y blaid yn credu mewn datganoli grymoedd: "Daeth y cynnig hwn gan yr aelodau, yr aelodau sy'n gosod ein polisiau.
"Penderfynwyd cael pleidlais, am y dyfodol, a ydyn ni - wedi 20 mlynedd o ddatganoli - eisiau canolbwyntio'n llwyr ar Gymru ai peidio?"
"Os byddwn ni'n hollol annibynnol yng Nghymru, bydd yn ein helpu ni i ddenu mwy o aelodau ac ymgyrchwyr."
'Anochel'
"Mae'r rhai sydd eisiau i ni aros fel y mae hi yn gwneud hynny am y tro," esboniodd.
"Maen nhw'i gyd yn credu ei bod hi'n anochel y byddwn ni'n cyrraedd yno. Mae'r amheuon yn ymwneud ag arian."
Cafodd Plaid Werdd yr Alban ei chreu yn 1990 pan dorross y blaid Werdd yn bleidiau annibynnol i'r Alban, Gogledd Iwerddon, a Chymru a Lloegr.
Bydd angen i dros 60% o'r pleidleisiwyr gefnogi'r cynnig iddo lwyddo.
Bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi ddydd Sadwrn 14 Gorffennaf.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2017