Eryri fydd cartref Eisteddfod yr Urdd yn 2028

Dyma fydd y pedwerydd tro i brifwyl yr Urdd gael ei chynnal yng Ngwynedd - gan ddilyn ymweliadau â Llŷn yn 1998, Glynllifon yn 2012, a'r Bala yn 2014
- Cyhoeddwyd
Mae Urdd Gobaith Cymru wedi cadarnhau mai rhanbarth Eryri yng Ngwynedd fydd cartref Eisteddfod yr Urdd yn 2028.
Mae'r Urdd yn dweud eu bod, ynghyd â Chyngor Gwynedd, yn dal i drafod safleoedd posib ar gyfer maes yr ŵyl.
Dyma fydd y tro cyntaf i Eisteddfod yr Urdd ymweld ag Eryri ers ei chynnal yng Nglynllifon ger Caernarfon yn 2012.
Dywedodd Llio Maddocks, Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd a'r Celfyddydau, ei bod yn edrych ymlaen at "gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal".

Dywedodd Llio Maddocks mai un o elfennau "pwysicaf Eisteddfod yr Urdd yw'r ffaith ei bod hi'n teithio"
Bydd cyfarfod cyhoeddus yn cael ei gynnal ar nos Fercher 24 Medi ar gyfer gwirfoddolwyr a chefnogwyr yn Ysgol Brynrefail, Llanrug.
Mae'r Urdd yn annog unrhyw un sydd eisiau mynychu'r cyfarfod cyhoeddus, ymuno â phwyllgor, neu enwebu swyddogion ar gyfer y Pwyllgor Gwaith, i lenwi ffurflen, dolen allanol ar-lein.
Dywedodd Llio Maddocks mai "pleser yw cael cefnogaeth Cyngor Gwynedd i gynnal yr Eisteddfod yn 2028".
"Un o elfennau pwysicaf Eisteddfod yr Urdd yw'r ffaith ei bod hi'n teithio ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr i gydweithio gyda'r gymuned yn ogystal â'r cyngor dros y tair blynedd nesaf, i gynnig profiadau gwerthfawr i blant a phobl ifanc yr ardal."

"Bydd yn bleser gallu cynnig llety i'r wŷl arbennig ac unigryw yma," medd Nia Jeffreys
Wedi Eisteddfod Dur a Môr yng Nghastell-nedd Port Talbot eleni, Ynys Môn fydd yn cynnal yr ŵyl y flwyddyn nesaf a Chasnewydd, rhanbarth Gwent, yn 2027.
Dywedodd Nia Jeffreys, Arweinydd Cyngor Gwynedd: "Rwyf yn hynod falch fod Cabinet Cyngor Gwynedd yn ei gyfarfod cyn yr haf wedi cytuno i wahodd yr Urdd i gynnal Eisteddfod Genedlaethol yng Ngwynedd yn 2028.
"Bydd yn bleser gallu cynnig llety i'r wŷl arbennig ac unigryw yma sy'n dathlu creadigrwydd, dawn ac ymroddiad ein pobl ifanc yn ogystal â'r diwylliant Cymraeg.
Ychwanegodd Ms Jeffreys ei bod yn "edrych ymlaen yn arw ac yn croesawu cydweithrediad efo'r Urdd sy'n gwneud gwaith arbennig!"
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd28 Mai
- Cyhoeddwyd29 Mai