Tywysog Charles yn seremoni ailenwi Ail Bont Hafren

  • Cyhoeddwyd
dadorchuddio

Mae seremoni wedi cael ei chynnal i ail-enwi Ail Bont Hafren ar ddiwrnod cyntaf taith flynyddol y Tywysog Charles yng Nghymru.

Roedd beirniadaeth hallt mewn ymateb i'r cyhoeddodd fod Llywodraeth y DU wedi penderfynu newid enw'r bont i Bont Tywysog Cymru.

Roedd nifer yn anhapus nad oedd ymgynghoriad cyn y penderfyniad, ac mae dros 38,000 o bobl wedi arwyddo deiseb yn gwrthwynebu'r cam.

Fe wnaeth Llywydd Y Cynulliad, Elin Jones wrthod gwahoddiad i fod yn y seremoni.

Ffynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r penderfyniad i ailenwi'r bont wedi ennyn teimladau cryf ymhlith gwrthwynebwyr

Roedd y Prif Weinidog, Carwyn Jones wedi cefnogi'r penderfyniad i ailenwi'r bont cyn y cyhoeddiad.

Cafodd yr enw ei newid er mwyn nodi 60 mlynedd ers i'r Tywysog dderbyn y teitl, a'i ben-blwydd yn 70 oed.

Ar ôl cael eu tywys o gwmpas swyddfa dollau Pontydd Hafren, fe deithiodd y Tywysog a Duges Cernyw i westy'r Celtic Manor lle cafodd plac seremonïol ei ddadorchuddio i nodi'r ailenwi.

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Alun Cairns ei fod yn gobeithio y bydd y ddwy bont "yn cael eu gweld fel symbolau cadarnhaol o'r cyfleoedd economaidd, diwylliannol a chymdeithasol... a ddaw i Gymru" wrth i'r tollau i ddefnyddio'r pontydd gael eu diddymu cyn diwedd y flwyddyn.

Mae'r Tywysog a'r Dduges yn cymryd rhan mewn 20 o ddigwyddiadau yn ystod y daith sy'n diweddu yng ngogledd Cymru ddydd Gwener.

Mae'r digwyddiadau'n cynnwys dathliadau yn nodi 70 mlynedd ers sefydlu'r GIG, a chanrif a hanner ers sefydlu rheilffordd Calon Cymru.