Cyngor Gwynedd yn penderfynu cau dwy ysgol ym Mangor
- Cyhoeddwyd

Bydd Ysgol Coedmawr yn un o'r ysgolion fydd yn cau erbyn 2020
Mae cynghorwyr Gwynedd wedi rhoi sel bendith i gynllun i gau dwy ysgol ym Mangor wrth ad-drefnu gwasanaethau yn y ddinas.
Bydd Ysgol Glanadda ac Ysgol Babanod Coedmawr yn cau yn 2020 gyda'r disgyblion yn symud i Ysgol y Garnedd, yn dilyn cymeradwyaeth y cabinet.
Bydd gan adeilad newydd Ysgol y Garnedd le i 420 o ddisgyblion ac fe fydd yn costio £12.7m.
Mae'r cyngor hefyd yn cynnal trafodaethau gyda'r Eglwys yng Nghymru ynglŷn â chynyddu capasiti Ysgol y Faenol i 315 o 186.
Cynyddu capasiti
Yn ôl yr adroddiad gafodd ei drafod gan gynghorwyr, mae niferoedd disgyblion wedi "newid yn sylweddol ers 1980, gyda lleihad o 62% yn Ysgol Babanod Coedmawr, a 68% yn Ysgol Glanadda".
Yn ystod yr un cyfnod, mae niferoedd Ysgol y Garnedd wedi cynyddu o 55% meddai'r adroddiad.

Mae Gareth Thomas, sy'n gyfrifol am addysg ar y cyngor sir, wedi dweud bod y cynllun yn "gyfle cyffrous"

Efallai o ddiddordeb...

Ym mis Mawrth, rhybuddiodd cadeirydd llywodraethwyr Ysgol Glanadda y byddai'r drefn newydd yn gadael rhan o'r ddinas heb adnoddau addysgol.
Dywedodd John Wynn Jones: "Rydach chi'n amddifadu'r cyfle i'r plant - toes 'na ddim dewis iddyn nhw ddod i ysgol yn eu hardal eu hunain."
Ond mae'r aelod cabinet dros addysg, y Cynghorydd Gareth Thomas wedi dweud bod y cynllun yn "gyfle cyffrous" i ddatblygu ysgol gynradd o'r radd flaenaf.
Ychwanegodd ei fod yn rhoi'r "cyfle gorau" i wella darpariaeth addysg gynradd a "chryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg" yn y ddinas.
Yn dilyn y cyfnod gwrthwynebu, bydd y cais yn cael ei gyflwyno i'r cabinet am gymeradwyaeth terfynol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mawrth 2018
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2017