Tua’r Gorllewin! Cymry yn sioeau cerdd y West End
- Cyhoeddwyd
O Gillian Elisa i Aneurin Barnard, o Steffan Harri i Rebecca Trehearn; mae Cymry yn aml yn ennill clod mewn sioeau cerdd, a gyda Chymru yn cael ei hadnabod fel Gwlad y Gân, a'n traddodiad o ganu ar lwyfan eisteddfodau ers i ni fod yn ddim o beth, nid yw'n syndod mawr.
Mae Cymru Fyw wedi cael sgwrs â dau Gymro sydd yn gwneud eu marc yn y West End ar hyn o bryd ynglŷn â'u gyrfaoedd, a'u bywydau prysur yn Llundain.
"O'n i'n hogyn drwg yn yr ysgol [Ysgol y Berwyn, Bala]. O'n i 'di cael fy nghicio allan o un o'r gwersi ac o'n i'n rhedeg i fyny a lawr y coridor maths yn gweiddi ac yn canu, a 'naeth [y diweddar] Derec Williams ddweud wrtha' fi am stopio actio fel prat, ac i ddefnyddio'r egni 'ma a mynnu mod i'n mynd i Theatr Maldwyn, a nes i wir ei fwynhau o! Felly dyna sut ddechreuodd petha'."
Dyna sut mae Luke McCall yn egluro sut dechreuodd ganu mewn sioeau cerdd ac mae ei yrfa wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.
Ar hyn o bryd, mae'n rhan o gast Phantom of the Opera yn y West End yn Llundain.
Astudiodd ym Mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin, a Choleg Cerdd a Drama, Caerdydd, cyn symud i Lundain, lle cafodd ran yn y sioe gerdd Les Misérables.
Roedd yn understudy i Enjolras a'r prif gymeriad, Jean Valjean, sydd yn gymeriad llawer hŷn nag oedd Luke ar y pryd. Ond yn lwcus, fel ddywedodd Luke, "dwi wastad wedi gallu tyfu barf da!"
Luke yw'r person ieuengaf yn y byd i chwarae'r ddwy ran enfawr, enwog, y Phantom a Jean Valjean - rhywbeth mae'n falch iawn ohono.
Gwarchod y llais
Yn amlwg, mae bywyd yn y diwydiant sioe cerdd yn gallu bod yn anodd: "Dwi'n swing yn y sioe, sy'n golygu mod i'n dysgu pob rhan dyn, ac felly mae pwy dwi'n ei chwarae heno yn wahanol i bwy dwi'n ei chwarae fory, achos mae 'na rywun wastad i ffwrdd yn sâl," meddai Luke.
"'Da ni'n gwneud wyth sioe yr wythnos. Mae'n lot o straen ar y corff a'r llais, sy'n achosi salwch.
"Ond hefyd yr adeg yma o'r flwyddyn, mae clefyd y gwair yn gallu bod yn broblem fawr i'r llais. Ac wedyn pan mae hi'n boeth iawn yn y dydd, ac yn oer pan ti'n gadael gyda'r nos, mae hynny yn gallu bod yn broblem.
"Dwi'n trio edrych ar ôl fy hun yn dda - deiet da a dwi'n cymryd lot o bethau at y llais."
Ac os nad ydy'r holl sioeau yn ddigon o waith, mae Luke yn cadw gweddill ei amser yn reit brysur hefyd.
"Dwi'n codi'n eitha' cynnar yn y bore a gwneud lot o betha'. Dwi'n g'neud gwaith voiceovers, cyngherddau ar y Sul, ac yn fuan bydda i wedi graddio fel personal trainer," meddai.
"Dwi hefyd yn trio mynd i'r theatr gymaint ag y galla i, er mwyn gwella fy hun. Dylech chi byth stopio trio dysgu a trio dysgu rhywbeth newydd bob dydd.
"Mae pobl yn talu cannoedd i weld y sioe, felly fy her i yw i ffeindio rhywbeth gwahanol ym mhob perfformiad."
Ar hyn o bryd, mae Luke yn mwynhau yr holl gyfleoedd mae'n eu cael yn ei yrfa, ac yn edrych ymlaen at beth ddaw yn y dyfodol:
"Dwi'n byw'r freuddwyd; dwi'n gweithio'n broffesiynol, yn gwneud be' dwi'n ei garu," meddai.
"Yn y dyfodol, dwi isho chwarae prif ran yn iawn, ond mae 'na ddigon o amser i wneud hynny, dwi ddigon ifanc. Dwi jyst am joio be' dwi'n ei 'neud 'wan."
I Rhidian Marc, sy'n wreiddiol o Gaerdydd, roedd yr Urdd yn allweddol wrth lywio ei yrfa ym myd y sioeau cerdd:
"Pan o'n i'n 17, nes i chwarae Marius yng nghynhyrchiad yr Urdd o Les Misérables yn 2005. Yna, i nodi pen-blwydd y sioe yn 20 oed yn Llundain, 'nathon nhw berfformiad byr yn y West End gyda chast o bobl ifanc o bob cwr o Brydain, a ges i chwarae Enjolras," meddai.
"Nes i gadw cysylltiad â thîm Cameron Mackintosh drwy'r coleg a llwyddo i gael rhan ar gyfer taith ddiwethaf y sioe yn syth ar ôl i mi raddio yn 2009."
Lleoliad cyntaf y daith oedd Canolfan y Mileniwm yng Nghaerdydd, ac roedd hi'n grêt cael bod yn ôl yn y Ganolfan, meddai Rhidian, yn enwedig i gael gwneud ei swydd broffesiynol gyntaf.
Perfformio yn rhan o'i fywyd
Mae perfformio bob amser wedi bod yn bwysig iddo - o Ysgol Treganna i Ysgol Plasmawr, ac yna yn y Royal Central School of Speech and Drama. Mae bellach yn Llundain ers 11 o flynyddoedd, ac nid oes golwg fod sioeau cerdd am ddiflannu o'i fywyd yn fuan iawn.
"Nes i gwrdd â ngwraig ar y daith gyntaf honno o Les Mis. Roedd hi'n gweithio i'r adran wigiau, a hi oedd yn arfer gludo fy sideburns i 'mlaen bob nos!" meddai.
Dros y blynyddoedd, mae Rhidian wedi cael nifer o brofiadau perfformio gwych - o sioeau Scrooge, i Pippin, ffilm Les Misérables, y sioe wreiddiol am fywyd yn nociau Caerdydd, Tiger Bay, ac mae bellach wedi cael rhan yn sioe Wicked ac yn dechrau ar y perfformiadau ddiwedd Gorffennaf.
Ddim yn fêl i gyd...
Fodd bynnag, mae Rhidian yn cyfadde' nad yw hi'n fywyd hawdd iawn bob amser.
"Dyw llawer o bobl ddim yn ymwybodol o'r holl swyddi 'da ni'n eu gwneud rhwng y jobs actio - dwi 'di treulio degawd yn gweithio mewn bars, llefydd coctêls, stafelloedd stoc mewn department store, blaen y tŷ mewn theatrau, bwytai, yn gwneud gigs canu - pob math o rai gwahanol er mwyn cadw dy ben uwchben y dŵr.
"Mae gwneud y jobs bach rhwng sioeau yn mynd yn tiring, lle ti ddim gwybod o lle mae'r arian yn dod. Felly mae gwybod 'mod i am fod yn Wicked am o leia' blwyddyn yn luxury."
Er fod ansicrwydd o ran swyddi efallai yn dyblu i Rhidian a'i wraig, Charlotte, gan fod y ddau yn yr un maes, mae'n dweud ei bod hi'n gwneud pethau'n haws ar y cyfan.
"Mae'r dealltwriaeth yna. Mae hi'n deall mod i ddim rownd - 'da ni'n dau yn gweithio'r un oriau yn aml, ac yn cyrraedd adre'n hwyr," meddai.
"Mae'r Nadolig yn gallu bod yn rhyfedd, gan mai dim ond y dydd ei hun rydyn ni'n ei gael ei ffwrdd, ac rydyn ni'n gweithio pob gŵyl y banc.
"Dyna pam fod y byd perfformio mewn 'chydig bach o bubble. 'Dyn ni ddim yn gweithio'r un oriau â phawb arall - dyw nosweithiau a phenwythnosau ddim yn bodoli.
"Felly mae'n gallu bod yn anodd efo ffrindiau sydd ddim yn y maes. Ddim mod i'n cwyno; mae'r ffrindiau 'dych chi'n ei wneud yn y byd theatr yn anhygoel - yn ddiddorol, yn dalentog, eccentric - mae e'n fyd cyffrous iawn i fod yn rhan ohono fe."
"Cadw 'mlaen i weithio..."
A beth am y dyfodol i Rhidian Marc?
"Mae 'na lawer o sioeau ro'n i wastad eisiau bod ynddyn nhw, ond mae'n siŵr mod i rhy hen iddyn nhw erbyn hyn... mae'n rhaid i mi feddwl am uchelgeisiau newydd wrth i mi heneiddio!
"Dwi wedi gwneud Les Mis, Phantom a Wicked nawr, sy'n dair sioe fawr iawn. Hoffen i wneud mwy o sioeau newydd - dyna pam 'nes i Tiger Bay yng Nghaerdydd - mae'n gyffrous iawn.
"Ond beth bynnag dwi'n ei 'neud, dwi mo'yn cadw 'mlaen i weithio.
"Un o'n uchelgeisiau i yw i fod yn un o'r unig rai sydd ddim wedi rhoi lan pan dwi'n 80 fel mod i'n gallu chwarae King Lear yn rhywle... os alla i stico 'mlaen!"