'Colli cyfle' wrth drin iechyd fel 'pêl-droed' gwleidyddol

  • Cyhoeddwyd
Meddyg teulu

Mae cyfle wedi'i golli i ddatrys rhai o broblemau mawr y gwasanaeth iechyd, a hynny am fod gwleidyddion ar draws y DU yn defnyddio'r GIG fel "pêl-droed" gwleidyddol.

Dyna rybudd yr economegydd iechyd Ceri Phillips, sy'n dweud bod angen i wledydd y DU ddysgu mwy gan ei gilydd ac edrych at weddill y byd am syniadau ar sut i fynd i'r afael â heriau aruthrol.

Yn ôl yr Athro Phillips o Brifysgol Abertawe, does yr un o systemau iechyd y DU wedi llwyddo i gyflawni'r math o newidiadau sydd eu hangen er mwyn delio â chynnydd yn y galw am ofal gan boblogaeth sy'n heneiddio.

Mae'n mynnu bod gwleidyddion yn rhy barod i edrych am atebion tymor byr, ond bod "problemau'r GIG ddim yn mynd i gael eu datrys mewn pum mlynedd".

Mynnodd hefyd na fyddai "taflu arian" at y gwasanaeth yn datrys y problemau chwaith.

'Meddwl tymor hir'

Mae Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething wedi cydnabod fod "gwleidyddiaeth" weithiau yn gallu rhwystro pobl rhag cael "trafodaeth gall" am y dyfodol.

Ac yn ôl yr Athro Phillips mae gwleidyddion wedi bod yn "chwarae pêl-droed gyda'r gwasanaeth iechyd" ers tipyn.

"Maen nhw'n gwybod pan fod llywodraeth mewn bod pum mlynedd gyda nhw i gael polisïau eu maniffestos trwodd," meddai.

"Ond dyw problemau'r GIG ddim yn mynd i gael eu datrys mewn pum mlynedd. Mae'n rhaid meddwl dros y tymor hir... dwi'n meddwl eu bod nhw wedi colli cyfle.

"Rhaid i [wledydd y DU] edrych at wledydd fel Seland Newydd, Awstralia, Canada a gwledydd Sgandinafia sydd wedi edrych ar y system gyfan."

Disgrifiad,

Yr Athro Ceri Phillips, economegydd iechyd

Yn ôl Mr Gething byddai gallu cael "sgwrs rhwng pedair llywodraeth" y DU yn help mawr wrth wneud penderfyniadau ar wasanaethau.

"Ar un lefel mae gweision sifil yn siarad gyda'i gilydd, pobl o fewn y system iechyd - mae doctoriaid, nyrsys, therapyddion ac eraill yn aml yn rhannu gwybodaeth am beth sy'n digwydd a beth sy'n gwella," meddai.

"Ond dwi'n meddwl bod lle i wella ar lefel wleidyddol, er bod gweledigaethau a gwerthoedd gwahanol yn cystadlu dros ddyfodol ein gwasanaeth iechyd.

"Dwi'n falch o'r gwerthoedd rydyn ni'n eu hyrwyddo ac yn sefyll yn gadarn drostynt pan mae'n dod at y gwasanaeth iechyd yng Nghymru."

'Yr un yn well'

Mae perfformiad y gwasanaethau iechyd ar draws y DU wedi bod yn destun dadlau ffyrnig yn ystod blynyddoedd diweddar.

Yn 2014 dywedodd David Cameron fod perfformiad y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn sgandal cenedlaethol, a bod Clawdd Offa'n cynrychioli ffin rhwng byw a marw.

Ond yn ddiweddarach fe ddaeth adolygiad rhyngwladol i'r casgliad nad oes yr un o'r pedair system iechyd yng ngwledydd Prydain yn perfformio'n well na'r gweddill yn gyson.

Dywedodd y Sefydliad Dros Gydweithio a Datblygiad Economaidd (OECD) y gallai'r gwasanaethau iechyd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon gydweithio'n agosach a dysgu mwy gan ei gilydd am ffyrdd i wella safon a diogelwch gofal.