Rhybudd am oedi ar ffordd yr A487 wrth ddymchwel coed

  • Cyhoeddwyd
CoedFfynhonnell y llun, Cyfoeth Naturiol Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r coed yn rhan o goedwig Tan y Coed, sydd wedi bod yn tyfu ar ochr y ffordd i'r gogledd o Fachynlleth.

Mae Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) wedi cadarnhau'r cam nesaf i ddymchwel coed ansefydlog ger Machynlleth, ac fe allai achosi oedi difrifol ar ffordd yr A487.

Mae'r coed ansefydlog, sy'n gorchuddio ardal cymaint â 30 o gaeau pêl-droed ger Ceinws, yn cael eu dymchwel am resymau iechyd a diogelwch.

Mae CNC bellach wedi cyhoeddi bydd traffic yn cael ei stopio i'r ddau gyfeiriad, am 10 munud, pob tro bydd coeden yn cael ei dymchwel.

Dywedodd Swyddog Prosiect ar gyfer CNC, Jared Gethin: "Mae'r coed yma'n ansefydlog ac mae'r risg iddyn nhw ddisgyn i'r ffordd ac achosi damwain yn cynyddu.

"Does gennym ddim opsiwn felly ond stopio traffig i'r ddau gyfeiriad tra ein bod yn torri'r coed mewn ffordd ddiogel," meddai.

'Stopio traffig'

Bydd contractwyr yn gosod ffens 900m i ddiogelu'r ffordd, ac mae cynllun mewn lle i adael cerbydau'r gwasanaethau brys drwodd heb oedi.

Bydd goleadau traffic ar y ffordd ger Ceinws ac mae disgwyl i'r cynllun gymryd naw mis i'w gwblhau.

Mae modd i yrwyr sy'n awyddus i osgoi'r ardal fynd drwy Mallwyd ar ffordd yr A470.

Ychwanegodd Mr Gethin: "Rydym yn ymddiheuro am yr oedi i yrwyr a byddwn yn gwneud popeth i leihau'r effaith ar bobl."