Oedi i driniaeth canser achos 'methiannau cyfrifiadurol'
- Cyhoeddwyd
Mae cleifion yn ysbyty ganser arbenigol Cymru wedi wynebu oedi yn eu triniaethau wedi i systemau cyfrifiadurol fethu 11 gwaith mewn pedair wythnos.
Clywodd ACau fod problemau gyda chofnodion cleifion yn Ysbyty Felindre yng Nghaerdydd mor wael ar un adeg, eu bod yn cael trafferthion bron bob dydd.
Mae'r system Canisc sy'n cael ei ddefnyddio dros 20 mlwydd oed, ddim bellach yn cael ei gefnogi gan Microsoft, ac yn agored i ymosodiadau seibr.
Fe wnaeth un swyddog wadu wrth bwyllgor ddydd Llun eu bod yn ceisio bychanu'r mater.
'Digwydd yn amlach'
Clywodd y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus fod cleifion chemotherapi a radiotherapi wedi wynebu oedi i'w triniaethau oherwydd y methiannau.
Digwyddodd y methiannau hynny rhwng 17 Ebrill a 22 Mai, gyda meddygon ymgynghorol yn aml yn gwneud gwaith paratoi gartref am eu bod yn disgwyl i'r systemau fod lawr.
Clywodd y pwyllgor dystiolaeth gan sawl uwch swyddog yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre ynglŷn â'r trafferthion gyda'r system gyfrifiadurol.
Dywedodd Stuart Morris, yr is-gyfarwyddwr gwybodeg, fod cyfnod "ble roedd rhyw fath o amhariad bron bob dydd".
Ychwanegodd y cyfarwyddwr cyllid a gwybodeg, Mark Osland ei fod yn "bryderus" fod y trafferthion yn digwydd yn amlach nag oedden nhw.
Ond dywedodd Dr Jacinta Abraham, cyfarwyddwr meddygol yr ymddiriedolaeth, nad oedd unrhyw "ddigwyddiadau difrifol anffodus" wedi eu cofnodi yn y cyfnod hwnnw.
Dywedodd AC Llafur Llanelli, Lee Waters fod adroddiad wedi dweud bod un claf heb dderbyn triniaeth chemotherapi, fod canlyniad prawf gwaed ddim ar gael, a bod oedi mewn triniaeth radiotherapi i wyth claf.
Mynnodd Dr Abraham fodd bynnag nad oedd unrhyw "niwed" wedi ei achosi a bod cleifion wedi cael eu triniaethau "o fewn dyddiau".
Ond fe awgrymodd Mr Waters fod "newid mewn tôn wedi digwydd o leiaf rhwng beth sydd wedi ei gyflwyno i ni [yn yr adroddiad] a beth 'dych chi'n ei ddweud i ni nawr".
Atebodd Dr Abraham: "Ddim o gwbl, beth mae'r papur wedi arwain ato yw adolygiad manwl i bob un o'r digwyddiadau hynny yn glinigol."
'Risg i gleifion'
Dywedodd Mr Osland fod system gyfrifiadurol Canisc yn cyrraedd "diwedd ei hoes" ond y byddai'n cymryd rhwng 18 mis a dwy flynedd i symud at system newydd.
Awgrymodd Stuart Morris fod y system bresennol yn fwy tebygol o ddioddef ymosodiad seibr wedi i Microsoft roi'r gorau i'w chynnal yn 2014.
Clywodd ACau fod mesurau wrth gefn bellach yn eu lle, gan gynnwys gwneud copïau ychwanegol o nodiadau.
Ond mae elusen ganser Macmillan wedi dweud fod "unrhyw fethiant" yn y system gyfrifiadurol yn golygu "risg i gleifion".
"Mae'n rhaid cymryd camau brys. All pobl â chanser yng Nghymru ddim aros dwy flynedd i gael y system newydd yn ei lle," meddai Pennaeth Gwasanaethau Macmillan yng Nghymru, Richard Pugh.
"Mae angen system ddibynadwy ar bobl â chanser er mwyn rheoli eu gofal yn effeithiol, ac mae angen y system honno nawr."
Dyw Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru (NWIS) ddim wedi cyhoeddi adroddiad ffurfiol ar y mater eto.
Mae NWIS hefyd dan bwysau wedi i adroddiad gan Swyddfa Archwilio Cymru ddweud bod oedi sylweddol yn y cynlluniau i ddigideiddio cofnodion cleifion y GIG yng Nghymru.
Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol, Huw Vaughan Thomas fod oedi gan NWIS yn golygu nad oedd yn bosib "manylu ar achos y problemau", ac y dylai ymchwiliad gan ACau i'r mater gael ei ymestyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2017
- Cyhoeddwyd24 Ionawr 2018
- Cyhoeddwyd16 Mai 2017