Galw am ailystyried trydaneiddio Caerdydd-Abertawe

  • Cyhoeddwyd
trenau Great Western RailwayFfynhonnell y llun, GWR

Mae grŵp o ASau wedi annog Llywodraeth y DU i ailystyried eu penderfyniad i beidio â thrydaneiddio'r rheilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe.

Dywedodd cadeirydd pwyllgor trafnidiaeth Tŷ'r Cyffredin, Lilian Greenwood y dylid edrych eto ar geisio lleihau costau'r cynlluniau gafodd eu gwrthod.

Ddyddiau wedi iddyn nhw gael eu dileu, cafodd cyllid ar gyfer Crossrail 2 yn Llundain ei gymeradwyo.

Doedd hi "ddim yn syndod", meddai Ms Greenwood, fod y penderfyniad hwnnw wedi "aildanio'r drafodaeth am yr anghyfartaledd" wrth fuddsoddi mewn rheilffyrdd ar draws y DU.

'Dim digon agored'

Yn ogystal â'r cynllun £430m rhwng Caerdydd ac Abertawe, roedd prosiectau trydaneiddio yng nghanolbarth a gogledd-orllewin Lloegr hefyd ymhlith y rhai gafodd eu gwrthod ar sail y gost.

Yn gynharach eleni dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Chris Grayling wrth ASau nad oedd gwario cannoedd o filiynau ar y gwaith uwchraddio rhwng Caerdydd ac Abertawe yn "beth call i'w wneud".

Daeth i'r amlwg mewn adroddiad ym mis Mawrth gan y corff sy'n arolygu gwariant cyhoeddus mai'r Prif Weinidog Theresa May wnaeth wneud y penderfyniad i ddileu'r cynllun.

Fe wnaeth y pwyllgor argymell ail-gategoreiddio'r prosiectau fel bod rhagor o waith yn cael ei wneud ar y gwaith dylunio ac i geisio lleihau costau.

Cafodd Mr Grayling ei gyhuddo gan Ms Greenwood o beidio â bod yn "fwy agored" pan gafodd ei gwestiynu gan y pwyllgor fel rhan o'r ymchwiliad.

"Dylai'r llywodraeth fod wedi bod yn fwy gonest a'r Senedd a'r cyhoedd am y gwir resymau y tu ôl i'r penderfyniad," meddai'r AS Llafur.

"Doedd cyhoeddiad gafodd ei wneud mewn datganiad ysgrifenedig ar y diwrnod olaf cyn y gwyliau haf ddim yn cynnig llawer o gyfle am drafodaeth a chraffu."

Wrth siarad â BBC Cymru, ychwanegodd Ms Greenwood: "Does dim dwywaith bod problemau wedi bod wrth drydaneiddio prif lwybrau Great Western, ac mae'r rheiny'n hysbys.

"Ond dylai fod yn bosib gyda rhaglen dreiglol i ddod â'r costau hynny lawr allai olygu bod trydaneiddio'r llinellau yna yn ne Cymru yn bosib."

Mae'r Adran Drafnidiaeth wedi cael cais am ymateb.