Dathliadau 70 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd

  • Cyhoeddwyd
Aneurin Bevan
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd y gwasanaeth ei lansio'n ffurfiol ar 5 Gorffennaf 1948 gan y gweinidog iechyd ar y pryd, Aneurin Bevan

Mae nifer o ddigwyddiadau wedi eu cynnal ar hyd a lled Cymru i ddathlu 70 mlynedd ers sefydlu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Ar y pen-blwydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd staff y GIG yn cael codiad cyflog sy'n cydfynd a'r cynnig yn Lloegr.

Mae'r cyhoeddiad, oedd yn ddisgwyliedig, yn golygu bod staff yn ennill yr un faint a'r rhai dros y ffin, gafodd godiad cyflog o 6.5% fis diwethaf.

Ond mae'r prif weinidog hefyd wedi dweud y bydd rhaid talu mwy o drethi yn y dyfodol i gynnal y gwasanaeth.

Fe gafodd y gwasanaeth ei lansio'n ffurfiol ar 5 Gorffennaf 1948 gan y gweinidog iechyd ar y pryd, Aneurin Bevan, gafodd ei eni yn Nhredegar.

Dyma oedd y tro cyntaf erioed i bobl yn y DU gael mynediad at ofal iechyd heb orfod talu.

Mae staff y GIG yng Nghymru hefyd wedi cael codiad i'w cyflogau, ar ôl Ysgrifennydd Iechyd Cymru, Vaughan Gething, gyhoeddi cytundeb newydd.

Yn ôl Mr Gething, mae'r cynnig newydd "yr un fath ac mewn rhai achosion yn mynd y tu hwnt i gytundeb cyflog newydd y GIG yn Lloegr".

Ond yn siarad ar y Post Cyntaf fore Iau, dywedodd Prif Weinidog Cymru y bydd rhaid i bobl dalu mwy o drethi yn y dyfodol er mwyn cynnal y gwasanaeth.

Dywedodd Carwyn Jones: "Os ni mo'yn cael y gwasanaeth iechyd ni mo'yn gweld, bydd yn rhaid i bobl dalu mwy o drethi neu yswiriant cenedlaethol."

Pobl yn 'fodlon' talu trethi uwch

Yn ôl Mr Gething byddai'r "rhan fwyaf o bobl yn fodlon talu mwy o dreth" er lles y gwasanaeth iechyd.

Y "sialens" meddai'r ysgrifennydd iechyd, fydd sicrhau fod pobl yn "gallu ymddiried mewn gwleidyddion i wario'r arian ar y GIG".

Wrth ymateb i gwestiynau am gynnydd posib mewn gwariant ar y GIG yng Nghymru, dywedodd Mr Gething: "Rydym ni wedi ymrwymo i gyllido'r GIG yn iawn, a gall wariant y llywodraeth [ar y GIG] godi yn uwch na 50% y tymor hwn."

Ychwanegodd mai'r mater dan sylw ar hyn o bryd oedd gwybod "sut y gallwn ni gydbwyso gofynion cynyddol ar wasanaethau cyhoeddus mewn amser o gynildeb".

Dadansoddiad Owain Clarke, gohebydd iechyd

Mae hyn yn gadarnhad o'r hyn wnaeth Vaughan Gething ei addo ym mis Mawrth.

Byddai bron yn amhosib dychmygu na fyddai Llywodraeth Cymru'n cynnig cytundeb tebyg i Loegr.

Petawn nhw heb, byddai wedi peryglu gwaethygu problemau Cymru yn nhermau recriwtio a chadw staff.

Ond nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod y llywodraeth wedi dewis cyhoeddi'r cytundeb yma ar ben-blwydd y gwasanaeth, er mwyn cael gymaint o sylw a phosib ar ddiwrnod y dathliadau.

Dathliadau

Ymysg y digwyddiadau a gafodd eu trefnu oedd seremoni mynychodd Carwyn Jones yn y Senedd.

Bu Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn ymweld ag Ysbyty Aneurin Bevan ym Mlaenau Gwent lle mynychodd y ddau de parti a chwrdd â chleifion a staff yr ysbyty.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Gruff Rhys wedi cyfansoddi cân yn arbennig i'r gwasanaeth iechyd

Ymysg y dathliadau yn y Senedd, roedd babi cyntaf y GIG, Aneira Thomas, yn siarad ac roedd nifer o arddangosfeydd yno.

Mae Gruff Rhys o'r Super Furry Animals wedi rhyddhau cân sydd wedi'i chyfansoddi'n arbennig i'r gwasanaeth iechyd.

Bu yn perfformio'r gân, o'r enw 'No Profit In Pain' sydd wedi'i chomisiynu gan Theatr Genedlaethol Cymru, y tu allan i Gastell Caerdydd.