Derwyddon Cefn a'r Bala allan o Gynghrair Europa
- Cyhoeddwyd
Mae Derwyddon Cefn a'r Bala allan o Ewrop wedi iddyn nhw golli i'w gwrthwynebwyr dros ddau gymal yn rownd gyn-ragbrofol Cynghrair Europa.
Fe wnaeth Derwyddon deithio i Lithuania ar gyfer eu hail gymal ar ôl sicrhau canlyniad cyfartal o 1-1 gartref yn erbyn Trakai yr wythnos ddiwethaf.
Ond fe sgoriodd Trakai unig gôl y gêm ar ôl 29 munud wrth i gyn-chwaraewr Everton, Diniyar Bilyaletdinov, sgorio cic o'r smotyn wedi trosedd gan y golwr Michael Jones.
Bu bron i'r tîm cartref ddyblu'r fantais cyn yr egwyl wrth i Rokas Masenovas daro'r trawst yn dilyn cic gornel.
Yn yr ail hanner fe bwysodd Derwyddon Cefn am y gôl fyddai wedi unioni'r sgôr a mynd â'r ornest i amser ychwanegol, gyda Jonathan Taylor yn methu cyfle yn y munud olaf.
Bala'n brwydro'n ofer
Mae'r Bala hefyd allan wedi iddyn nhw fethu â brwydro nôl o golli 3-0 i Tre Fiori o San Marino yn y cymal cyntaf.
Cafodd tîm Colin Caton sawl cyfle i sgorio cyn i Nathan Burke ganfod cefn y rhwyd gyda chwarter awr i fynd.
Funudau'n ddiweddarach rhoddodd Steven Tames y bêl yng ngefn y rhwyd ond chafodd hi ddim mo'i chaniatáu oherwydd camsefyll.
Er gwaethaf saith munud o amser am anafiadau, doedd hynny ddim yn ddigon iddyn nhw ganfod y ddwy arall oedd eu hangen er mwyn mynd â'r gêm i amser ychwanegol.
Bydd Cei Connah yn ymuno â'r gystadleuaeth yn y rownd ragbrofol gyntaf, gan herio FC Shakhtyor Soligorsk o Felarws yn y cymal cyntaf ar 12 Gorffennaf.