Cau pier Bangor wedi gwneud cwpwl yn 'amddifad'

  • Cyhoeddwyd
Pier BangorFfynhonnell y llun, David Toase / Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pier Bangor ar gau i'r cyhoedd wrth i waith atgyweirio gael ei gwblhau yn dilyn pryderon am ddiogewlch yr atyniad

Mae cwpwl sy'n rhedeg y pafiliwn te ar bier Bangor wedi dweud fod gwaith atgyweirio wedi eu gorfodi i gau'r caffi a'i gwneud nhw'n "amddifad".

Yn ôl Nick Davies a Ceinwen Pughe, sydd yn ei blwyddyn ddiwethaf o les pum mlynedd i redeg y caffi dim ond tridiau o rybudd gafon nhw cyn gorfod cau.

Mae'r ddau nawr yn wynebu cyfnod heb unrhyw fath o incwm wrth iddyn nhw gymryd camau cyfreithiol yn erbyn Cyngor Dinas Bangor am iawndal.

Fe wnaeth Cyngor Dinas Bangor gadarnhau ym mis Mehefin byddai gwaith atgyweirio yn digwydd ar y pier ar ôl i adroddiad gan beirianwyr godi pryderon am ddiogelwch.

Mae'r cwpwl yn amcangyfrif y bydden nhw wedi gwneud £900 y dydd ar benwythnosau a £500 yn ystod yr wythnos o ganlyniad i'r tywydd poeth diweddar.

'Cau'r pier'

Bellach mae ganddyn nhw stoc gwerth £600 ar ôl, dim math o incwm a'r posibilrwydd o fethu talu rhent tra bod y gwaith atgyweirio yn digwydd.

Yn wreiddiol dywedodd y cyngor y byddai'n rhaid i'r pafiliwn te gau ar unwaith, ond fe gafon nhw dridiau cyn gorfod cau yn gyfan gwbl.

Dywedodd Mr Davies eu bod wedi cael clywed ym mis Hydref "na fyddai gwaith ar y pier yn effeithio'r pafiliwn te, gyda disgwyl i'r gwaith gael ei gwblhau erbyn Chwefror eleni".

Erbyn hyn mae'r pier wedi'i gau yn gyfan gwbl gyda disgwyl i'r gwaith atgyweirio gostio £1m. Bydd yr arian yn dod o gronfeydd cyfalaf Cyngor Dinas Bangor.

Ychwanegodd Mr Davies: "Mae gwaith anferth wedi mynd fewn i'r busnes dros y pedair blynedd, ac fe ddisgwyliais dair blynedd am y lle. Maen nhw wedi ein gadael yn amddifad."

'Peryglus'

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Dinas Bangor: "Mae Cyngor Dinas Bangor yn y broses o atgyweirio strwythur Pier Garth sydd angen ei drwsio ar frys.

"O ganlyniad i broblemau iechyd a diogelwch ac adroddiad gan beirianwyr adeiladu, bydd ardal o'r enw Pier Head ar gau i'r cyhoedd gan fod y strwythur yn beryglus.

"Yn anffodus, bydd y pafiliwn te ar gau a ni fydd modd i'r cyhoedd gael mynediad i'r Pier Head nes bydd y gwaith atgyweirio wedi'i gwblhau. Bydd yn debygol o fod ar gau am naw mis.

"Mae Cyngor y Ddinas yn ymddiheuro am unrhyw anawsterau yn ystod y prosiect, ond mae'r gwaith yma angen ei wneud er mwyn sicrhau diogelwch y pier at y dyfodol."