Cytundebau newydd i saith o chwaraewyr Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mae Caerdydd wedi cyhoeddi bod saith o'u chwaraewyr, gan gynnwys y capten Sean Morrison, wedi ymestyn eu cytundebau gyda'r clwb.
Mae'r ymosodwr Nathaniel Mendez-Laing, y chwaraewr canol cae Joe Ralls, yr amddiffynwyr Callum Paterson, Lee Peltier a Matthew Connolly, a'r golwr Brian Murphy hefyd wedi arwyddo.
Ychwanegodd y clwb fod disgwyl i'r chwaraewr canol cae Aron Gunnarsson hefyd arwyddo estyniad i'w gytundeb, oedd yn dod i ben yn yr haf.
"Mae o [Gunnarsson] eisiau ein helpu ni i aros yn yr Uwch Gynghrair," meddai'r rheolwr Neil Warnock.
"Fe gawson ni sgwrs chwe wythnos yn ôl [cyn iddo fynd i Gwpan y Byd gyda Gwlad yr Ia] ac fe ddywedodd ei fod o eisiau aros - nawr 'dan ni'n edrych ymlaen at ei groesawu yn ôl i'r grŵp."
Mae Gunnarsson, 29, wedi chwarae dros 250 o weithiau dros y clwb ers symud yno yn 2011, ac yn un o dri chwaraewr sydd dal yn y garfan ers y tro diwethaf iddyn nhw chwarae yn yr Uwch Gynghrair yn 2013/14.
Ers sicrhau dyrchafiad o'r Bencampwriaeth mae Warnock wedi arwyddo pedwar chwaraewr newydd - y golwr Alex Smithies, yr amddiffynnwr Greg Cunningham, a'r blaenwyr Josh Murphy a Bobby Reid.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd28 Mehefin 2018