Cymru ymysg y llefydd gwaethaf am ganser y croen
- Cyhoeddwyd
Mae Cymru'n un o'r llefydd sydd â'r gyfradd uchaf ar gyfer datblygu canser y croen yn y DU, yn ôl oncolegydd blaenllaw.
Dywedodd yr Athro John Wagstaff, cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Canser Cymru, bod hynny'n rhannol oherwydd y "traethau hardd" a'r "diwylliant syrffio".
Daw'r rhybudd ar ôl i saith person orfod cael eu trin yn Uned Gofal Llosgiadau Difrifol Ysbyty Treforys dros yr wythnosau diwethaf oherwydd llosg haul difrifol.
Mae ffigyrau'n dangos bod melanoma - canser sy'n cael ei achosi gan losg haul - yn un o'r mathau o ganser mwyaf cyffredin, sy'n cynyddu gyflymaf, yng Nghymru.
Yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae achosion melanoma wedi cynyddu 58.3% rhwng 2003-2005 a 2013-2015 - yr ail gynnydd mwyaf y tu ôl i ganser yr iau.
Dywedodd yr Athro Wagstaff bod gwahaniaethau sylweddol yng ngwahanol rannau'r DU, ac o fewn Cymru hefyd.
"Yn gyffredinol, y pellach i'r gorllewin ydych chi yr uchaf yw'r gyfradd melanoma," meddai.
"Cymru a Chernyw sydd â'r cyfraddau uchaf yn y DU, ac mae'n debyg bod hyn am fod mwy o heulwen a diwylliant syrffio."
Dywedodd er bod cyfraddau goroesi pobl sydd â melanoma wedi gwella'n sylweddol, ei fod yn parhau'n "beryg bywyd".
Cyngor am gadw'n ddiogel yn yr haul
Gwisgo dillad addas;
Defnyddio eli haul SPF 30+ sydd â UVA o leiaf pedair seren;
Gwisgo sbectol haul o safon i amddiffyn eich llygaid;
Cysgodi rhag yr haul pan fo'n bosib.
'Ddim wedi'i drin yn gywir'
Mae problem llosg haul yn gwaethygu yn y DU, ond dywedodd yr Athro Wagstaff fod modd osgoi hynny.
"Yn Awstralia mae ymgyrch wedi bod mewn lle ers 25 mlynedd ar draethau ac mewn ysgolion, yn dweud wrth bobl am gadw eu crysau-t ymlaen a rhoi eli haul 'mlaen," meddai.
"Mae cyfraddau yno wedi bod yn gostwng yn eithaf sylweddol, tra yn y DU mae cyfraddau wedi dyblu pob degawd ers 40 mlynedd.
"Mae llosg haul yn broblem iechyd cyhoeddus sydd ddim wedi cael ei drin yn gywir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2015
- Cyhoeddwyd21 Ebrill 2014