Gorsaf bŵer Wylfa Newydd yn 'peryglu safle adar'

  • Cyhoeddwyd
Bae CemlynFfynhonnell y llun, Nia H Jones/NWWT
Disgrifiad o’r llun,

Mae Bae Cemlyn yn gartref i filoedd o adar, gan gynnwys môr-wenoliaid pigddu

Gallai safle nythu adar sydd â phwysigrwydd rhyngwladol gael ei effeithio gan gynllun i adeiladu gorsaf bŵer niwclear, yn ôl cadwraethwyr.

Mae pryder y gallai adeiladu gorsaf Wylfa Newydd hefyd niweidio gwlypdiroedd pan fydd hyd at 4,000 o weithwyr ar y safle.

Dywedodd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru y byddai'n herio'r orsaf drwy'r broses gynllunio.

Mae cwmni Pŵer Niwclear Horizon yn dweud ei fod yn anelu at leihau niwed amgylcheddol.

Dros 1,000 o adar

Dadl yr ymddiriedolaeth yw bod y cynllun yn peryglu'r warchodfa mae'n ei reoli ym Mae Cemlyn.

Yno mae'r unig grŵp o fôr-wenoliaid pigddu yng Nghymru, gyda phoblogaeth o dros 1,000 o adar.

Mae'r bae yn ardal gadwraeth arbennig, gyda chribyn o gerrig yn rhannu lagŵn a'r môr.

Ond mae amgylcheddwyr yn credu y gallai creu harbwr dwfn fel rhan o'r cynllun niwclear fod yn niweidiol iawn.

Ffynhonnell y llun, Ben Stammers/NWWT
Disgrifiad o’r llun,

Y bae yw'r unig le yng Nghymru lle mae môr-wenoliaid pigddu yn nythu

"Gall fod newidiadau i gerrynt morol drwy adeiladu morglawdd 500m yno," meddai Teresa Hughes, swyddog cynllunio sy'n cynghori'r grŵp amgylcheddol.

"Gallai wthio dŵr dros y cribyn a niweidio neu olchi'r argae i ffwrdd.

"Mae hynny'n effaith sydd â goblygiadau hirdymor."

Mae Horizon yn gwadu'r honiad, gan ddweud na fyddai unrhyw effaith andwyol ar y lagŵn.

'Lleihau'r effaith'

Mae pryder hefyd am benderfyniad i leoli llety i 4,000 o weithwyr ger safle o ddiddordeb gwyddonol dros y cyfnod adeiladu o 10 mlynedd.

Yn ôl y grŵp amgylcheddol, mae Tre'r Goff yn gartref i blanhigion prin, ffyngoedd, ymlusgiaid a mamaliaid bychain.

Dywedodd llefarydd ar ran Horizon eu bod wedi gweithio am "sawl blynedd" i ddatblygu eu cynllun, a'u "bwriad bob tro yw lleihau unrhyw effaith amgylcheddol" .

Ychwanegodd y byddai'r cwmni'n gweithio gyda nifer o grwpiau lleol ar "nifer o brosiectau ecolegol eraill" yn y dyfodol.