Llofrudd o'r Felinheli wedi marw yn y carchar
- Cyhoeddwyd
Mae dyn o'r Felinheli yng Ngwynedd wnaeth lofruddio ei wraig wedi marw yn y carchar, ychydig wythnosau wedi iddo gael ei ddedfrydu i oes dan glo.
Fe wnaeth Paul Jordan, 54, drywanu Elizabeth 'Betty' Jordan, 53, i farwolaeth yn ardal Maesgeirchen ym Mangor ym mis Gorffennaf 2017.
Cafwyd Jordan yn euog gan reithgor ym mis Mai a'i ddedfrydu i o leiaf 14 mlynedd dan glo.
Fe wnaeth y Gwasanaeth Carchardai gadarnhau bod Jordan wedi marw yng Ngarchar Altcourse yn Lerpwl ddydd Sadwrn.
Clywodd Llys y Goron Caernarfon ar y pryd fod Mr a Mrs Jordan wedi gwahanu, a bod Mr Jordan wedi gyrru i'r cartref priodasol a'i thrywanu am ei fod yn credu bod ei wraig yn cael perthynas â rhywun arall.
Yn ystod yr achos roedd yr amddiffyniad yn mynnu bod Jordan yn dioddef o salwch meddwl difrifol, ac nad oedd yn ei iawn bwyll pan laddodd ei wraig.
Roedd y llys wedi clywed fod Jordan yn gweithio i BT, yn uchel ei barch ac yn gyn-lywodraethwr ysgol.
Ond dywedodd seiciatrydd yn ei achos fod ganddo broblemau iechyd meddwl gan gynnwys paranoia.
Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Carchardai ddydd Sul: "Bu farw'r carcharor Paul Martin Jordan yng Ngharchar Altcourse, Lerpwl, ar 6 Gorffennaf.
"Fel yw'r achos ar gyfer pob marwolaeth yn y ddalfa bydd ymchwiliad annibynnol gan yr Ombwdsmon Carchardai."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Mai 2018
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018