Ysgol Carno: Pave Aways yn adeiladu'r ysgol newydd

  • Cyhoeddwyd
Carno schoolFfynhonnell y llun, Ysgol Carno SOS
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgyblion Ysgol Carno wedi derbyn eu haddysg mewn dosbarthiadau symudol ers 1992.

Mae gwaith adeiladu ysgol newydd yng Ngharno wedi dechrau ar ôl i Gyngor Powys roi cytundeb i gwmni Pave Aways o Groesoswallt.

Ar hyn o bryd, mae disgyblion Ysgol Gynradd Carno yn cael eu dysgu mewn dosbarthiadau symudol dros dro.

Yn ogystal ag adeiladu ysgol gynradd newydd, bydd y cwmni yn adnewyddu rhannau o Ysgol Glantwymyn, fel rhan o brosiect gwerth £2.8m.

Mae aelod cabinet y cyngor ar faterion addysg yn canmol y cytundeb, gan ddweud bod modd i ysgolion gwledig y sir "ffynnu mewn cyd-destun modern".

Nid yw’r post yma ar X yn gallu ymddangos yn y porwr. Os gwelwch yn dda defnyddiwch Javascript neu geisio eto ar borwr gwahanol.Gweld y cynnwys gwreiddiol ar X.
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
I osgoi neges X gan Ysgol Carno

Caniatáu cynnwys X?

Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.

Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol
Diwedd neges X gan Ysgol Carno

Mae'r gwaith adeiladu bellach wedi dechrau a'r gobaith yw gweld disgyblion yn derbyn eu haddysg yn yr adeilad newydd yn Ionawr 2019.

Bydd y gwaith adnewyddu i Ysgol Glantwymyn yn cynnwys ychwanegu cyfleusterau tai bach i'r anabl a gwelliannau i'r maes parcio.

Bydd y gwaith yn cael ei ariannu gan Gyngor Powys a Llywodraeth Cymru.

Dyfodol ysgolion gwledig

Mae'r ddwy ysgol, ynghyd ag Ysgol Llanbrynmair, yn rhan o ffederasiwn o ysgolion, sy'n golygu bod y tair ysgol yn rhannu'r un corff llywodraethu a phennaeth.

Cafodd y ffederasiwn ei chreu yn 2013 yn dilyn brwydr i gadw Ysgol Carno ar agor.

Dywedodd yr aelod cabinet â chyfrifoldeb am addysg, y Cynghorydd Myfanwy Alexander: "Trwy'r ffederasiwn, mae modd dangos bod ysgolion bach cefn gwlad yn gallu ffynnu mewn cyd-destun modern.

"Rydym yn falch i fod yn adeiladu ysgol bentref, sy'n dangos ein hymrwymiad i ddwy ran o dair o drigolion Powys sy'n byw yng nghefn gwlad."

Mae cwmni Pave Aways hefyd wedi addo defnyddio is-gontractwyr lleol i wneud y gwaith.