Cynlluniau i achub ysgol Carno

  • Cyhoeddwyd
Ysgol Carno
Disgrifiad o’r llun,

Mae ymgyrchwyr wedi bod yn poeni am effaith cau yr ysgol ar yr iaith yn yr ardal

Mae'n bosib y bydd ysgol ym Mhowys yn parhau ar agor os bydd cynlluniau newydd gan y cyngor yn cael eu derbyn.

Y bwriad i ddechrau oedd cau Ysgol Carno a symud y 44 o ddisgyblion i Ysgol Llanbrynmair.

Ond nawr mae'r cyngor yn argymell bod Carno yn ymuno gydag Ysgol Llanbrynmair ac Ysgol Glantwymyn mewn ffederasiwn.

Mae'r grŵp Ysgol Carno SOS, sydd wedi bod yn ymladd i gadw'r ysgol gynradd Gymraeg ar agor wedi croesawu'r cynlluniau.

Ym mis Ionawr fe lansiwyd ymgynghoriad gan y cyngor er mwyn clywed barn trigolion lleol am y posibilrwydd o gau Ysgol Carno ac Ysgol Llandinam.

Dywedodd Rhiannon Snape o'r grŵp ymgyrchu:

"Dyma yn union beth oedden ni eisiau.

"Yn amlwg mi fydd yn rhaid i ni aros nes bod y cabinet yn pleidleisio.

"Ond mae'r cyngor wedi gwrando ar yr hyn yr oedd pobl yn y gymuned yn dweud ac mi oedd yr adborth yn gryf.

"Mae mwy na 300 o lythyrau o gefnogaeth wedi eu rhoi i'r cyngor yn gofyn i gadw'r ysgol ar agor."

Mae'r penderfyniad ar ddyfodol Ysgol Llandinam wedi cael ei ohirio.

Trafod y cynlluniau

Bydd cabinet y cyngor yn edrych ar yr argymhellion i gadw Ysgol Carn ar agor ar Fai 14.

Fe fyddan nhw hefyd yn trafod y posibilrwydd o uno Ysgol Bro Ddyfi, yr ysgol Uwchradd ym Machynlleth a'r ysgol gynradd yn y dref gan greu un ysgol ar gyfer plant a phobl ifanc rhwng 3-19 oed.

Yr eitem arall ar yr agenda fydd ffederaleiddio ysgol uwchradd a chynradd Llanidloes.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol