Cyfarfod i drafod dyfodol Tŵr y Marcwis ar Ynys Môn

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

Y Cynghorydd Alun Wyn Mummery sy'n trafod pam ei bod mor bwysig ailagor Tŵr y Marcwis

Mae gwirfoddolwyr sydd wedi bod yn ymgyrchu i ailagor a datblygu un o atyniadau amlycaf Ynys Môn yn cynnal cyfarfod i geisio denu cefnogaeth i'r cynllun.

Cafodd Colofn y Marcwis ger Llanfairpwll, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, ei chau yn 2012 yn sgil pryderon fod y grisiau yn beryglus.

Yn ystod y cyfarfod nos Fercher bydd cyfle i'r gwirfoddolwyr rannu eu syniadau a'u gweledigaeth ar gyfer y tŵr gyda phobl yr ardal.

Yn ôl cynghorydd sir lleol, Alun Wyn Mummery, mae angen i bobl yr ardal "gefnogi unrhyw gynllun i adfywio'r tŵr" gan ei fod yn "un o strwythurau mwyaf eiconig yr ynys".

'Tŵr eiconig'

Cafodd Tŵr y Marcwis ei adeiladu yn 1817 fel cofeb yn dilyn cyfraniad Marcwis cyntaf Môn ym Mrwydr Waterloo.

Hyd at gau'r atyniad, bu ymwelwyr a thrigolion lleol yn gallu dringo'r 115 gris i fyny'r tŵr i fwynhau golygfeydd panoramig o ogledd-orllewin Cymru, yn cynnwys Eryri, Ynys Môn a Phen Llŷn.

Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Alun Wyn Mummery mae angen i bobl leol gefnogi unrhyw gynllun i adfywio'r tŵr

Dywedodd y Cynghorydd Mummery wrth Cymru Fyw ei fod yn gobeithio y bydd pobl leol yn cefnogi unrhyw gynllun fydd yn cael ei gynnig i adfywio'r tŵr.

"Mae o'n eiconig i'r bobl, ac mae o wedi bod yma ers cymaint o flynyddoedd. Ac mae 'na gymaint o bobl wedi bod yn ymweld â'r pentref 'ma," meddai.

"Ac wrth gwrs, mae hwn, pan ydych chi'n dod dros y bont, yn un o'r pethau cyntaf sy'n taro'ch llygaid chi."

Amcanbris o £200,000

Mae'r ymddiriedolaeth sy'n gyfrifol am y tŵr yn amcangyfrif y bydd y gwaith adfer yn costio dros £200,000, ac fe gafodd ymgyrch ei sefydlu i gyrraedd y targed hwnnw yn 2017.

Dywedodd y Cynghorydd Mummery fod Marcwis presennol yr ynys wedi ei ddewis yn gadeirydd ar yr ymddiriedolaeth newydd.

"Mae'r ffaith fod y tŵr wedi bod ar gau ers cymaint o amser rŵan yn bryder mawr i'r trigolion yma," meddai.

"Erbyn rŵan, mae 'na lot o'r plant sy'n byw yn y pentref, neu wedi eu magu yn y pentref heb fod yn dop y tŵr.

"Ac mae hynny, mewn ffordd yn golled fawr iddyn nhw, yn eu magwraeth 'swni yn ddweud."

Fe fydd y digwyddiad galw heibio yn cael ei gynnal rhwng 17:30 a 20:00 nos Fercher ym Mhlas Newydd ar yr ynys.