Criwiau'n taclo dros 15 o danau gwair yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
Parc Gwledig Barry Sidings, PontypriddFfynhonnell y llun, @jojowelshgirl
Disgrifiad o’r llun,

Mae criwiau wedi eu galw i Barc Gwledig Barry Sidings, Pontypridd

Mae diffoddwyr yn ceisio rheoli cyfres o danau gwair dros Gymru yn y dilyn y cyfnod o dywydd poeth a sych.

Yn y de orllewin, mae Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a De Cymru yn defnyddio awyren di-beilot i fonitro'r sefyllfa ar dir Comin Garn Goch ger Gorseinon, lle mae hyd at 10 hectar o dir ar dân.

Mae crwiaiu o Bontarddulais, Treforys ac Abertawe wedi bod ar y safle ers 12:20.

Yn ôl llefarydd mae'r gwasaneth yn ymladd 16 o danau yn y rhanbarth.

Yn Llangors ym Mhowys mae diffoddwyr yn ceisio rheoli tân mynydd, ac mae criwiau hefyd yn ceisio rheoli tanau ym Monymaen ac yn ardal Pontypridd.

Mae adroddiadau hefyd o danau gwair yn ardal Rhiwderyn, Casnewydd.

Yn y cyfamser yn y gogledd mae criwiau yn parhau ar safle Gwarchodfa Natur Penrhos.

Mae dau griw o Gaergybi ac un o Langefni yn ceiso diffodd fflamau sydd wedi lledu dros 100 metr sgwâr.

Mae criwiau o Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd wedi eu galw i Fynydd Bangor lle mae adroddiadau o dân.