'Cyfeirio gormod o blant' at wasanaethau iechyd meddwl

  • Cyhoeddwyd
iechyd meddwlFfynhonnell y llun, Thinkstock

Mae gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc yng Nghymru "dan bwysau anferthol" am fod ysgolion yn cyfeirio gormod o bobl atynt, yn ôl elusen.

Dywedodd Hafal fod y rheiny oedd wir angen cymorth yn cael eu hatal oherwydd "pryder" gan athrawon oedd yn cyfeirio eraill oedd ddim wir ei angen.

Mae ffigyrau newydd yn dangos bod ysgolion wedi cyfeirio tua 1,800 o blant at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) y llynedd.

Dywedodd Llywodraeth Cymru fod ganddyn nhw gynllun peilot ble mae arbenigwyr yn rhoi cyngor a chefnogaeth i ysgolion.

'Balch o faner salwch meddwl'

Yn ôl prif weithredwr elusen iechyd meddwl Hafal, Alun Thomas, does gan athrawon yn aml ddim yr amser na'r adnoddau i gyfeirio disgyblion ac mae angen "gwell ffordd o ddosbarthu" plant sy'n ei chael hi'n anodd.

"Yr her fwyaf yw ar gyfer y plant yna sydd wir angen CAMHS - dydyn nhw methu cael ato achos mae'r system yn cael ei flocio gan bryder ar ran y rheiny sy'n cyfeirio achos 'dwi ddim yn siŵr os yw'r person yma angen e, ond fe wnâi eu cyfeirio nhw beth bynnag'," meddai.

Dywedodd bod Hafal wedi "dioddef o'n llwyddiant ein hunain" gydag ymgyrchoedd llwyddiannus i gael gwared â'r stigma ynghylch iechyd meddwl, gan ychwanegu nad yw diagnosis meddygol wastad yn datrys problemau disgyblion.

"Yn anffodus mae gennym ni ddiwylliant seleb ble mae pobl bron yn falch o gael y faner o salwch meddwl, fel ein bod ni'n defnyddio labeli salwch meddwl ac iechyd meddwl ar gyfer teimladau normal," meddai.

Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Thomas yn dweud nad oes angen gwneud i bob achos o bryder "swnio fel problem feddygol"

"Felly mae gennym ni bobl ifanc sy'n sefyll eu harholiadau ac rydyn ni'n defnyddio 'pwysau', 'pryder', 'iselder'.

"Fe ddylen nhw boeni ychydig am fod yn sefyll eu harholiadau wrth gwrs achos fe fyddan nhw'n cael effaith arnyn nhw, ond mae'n beth normal.

"Ddylen ni ddim rhoi gair diagnostig iddo, ddylen ni ddim gwneud iddo swnio fel problem feddygol... mae tyfu lan yn ddigon anodd heb roi label iddo."

Ychwanegodd y byddai'n hoffi gweld nyrsys ysgol yn cael eu hailgyflwyno er mwyn helpu disgyblion, ac mae'r elusen hefyd yn datblygu cynllun ble mae meddygon teulu'n dod i 'nabod plentyn yn well cyn eu cyfeirio.

'Angen helpu athrawon'

Mae ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dangos bod 1,799 o blant a phobl ifanc wedi cael eu cyfeirio gan ysgolion i'w byrddau iechyd lleol yn 2017/18, ffigwr sydd wedi aros yn weddol gyson ers 2014.

Ond roedd bron i 1,000 o'r rheiny ar gyfer disgyblion 12 i 15 oed, cynnydd o 49% yn y grŵp oedran hwnnw mewn pedair blynedd, ac roedd nifer y disgyblion 16-18 oed hefyd ar ei uchaf dros yr un cyfnod.

Ar y cyfan cafodd 18,100 o gyfeiriadau eu gwneud i wasanaethau seiciatryddol ar gyfer plant a phobl ifanc y llynedd, gan gynnwys o feddygon teulu, gwasanaethau cymdeithasol ac elusennau - ffigwr oedd wedi gostwng o'r 19,900 y flwyddyn gynt.

Dywedodd adroddiad diweddar i'r Cynulliad fod "trend ar i lawr" wedi bod yn nifer y plant oedd yn cael eu cyfeirio'n ddiangen.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'n beth "normal" i deimlo pwysau adeg arholiadau er enghraifft, meddai prif weithredwr elusen Hafal

Ond dywedodd awdur yr adroddiad, y Comisiynydd Plant Sally Holland, fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyfle i ysgogi newid yn iechyd meddwl plant a phobl ifanc.

Ychwanegodd undeb athrawon NASUWT fod disgyblion yn wynebu pwysau o sawl cyfeiriad, gan gynnwys cystadleuaeth academaidd a chyfryngau cymdeithasol, ac y byddai'n "wych" petai mwy o adnoddau ar gael er mwyn ysgwyddo'r baich ar athrawon.

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru'n treialu cynllun mewn tair ardal - Wrecsam a Dinbych; Blaenau Gwent, Torfaen a Phowys; a Cheredigion - ble mae arbenigwyr CAMHS yn gweithio gydag ysgolion i roi cyngor ar gyfeirio disgyblion at wasanaethau.

"Mae iechyd meddwl ein pobl ifanc yn hynod bwysig. Rydym yn buddsoddi'n sylweddol mewn darpariaeth CAMHS, gyda £8m yn flynyddol tuag at wella mynediad, recriwtio staff arbenigol a datblygu gwasanaethau newydd.

"Rydyn ni hefyd yn cydnabod y rôl bwysig sydd gan ysgolion pan mae'n dod at iechyd meddwl pobl ifanc, ac wedi darparu cyllid ar gyfer rhaglenni i ddarparu cymorth proffesiynol penodol i ysgolion. Rydym wedi ymrwymo i gymryd camau pellach ac yn disgwyl i amseroedd aros wella o ganlyniad."

Rhagor ar Wales Today am 18:30 ddydd Gwener ar BBC One Wales.