Dathlu hanner canrif o ddawnsio gwerin yng Nghaerdydd
- Cyhoeddwyd
Bydd dathliad o hanner canrif o ddawnsio gwerin yng Nghaerdydd a theyrnged i aelod blaenllaw un o bartïon Cymraeg cyntaf y brifddinas mewn sesiwn yn yr Eisteddfod ddydd Sadwrn.
Roedd Christine Jones - Christine Davies gynt, yn wreiddiol o Gasllwchwr - a'i gŵr Rhodri ymhlith sylfaenwyr Cwmni Dawns Werin Aelwyd Caerdydd (yn wreiddiol Cwmni Dawns Werin Caerdydd) yn 1968.
Bu farw wedi salwch hir ym mis Mawrth, ac fe fydd un o'i chyfellion agos, Prydwen Elfed-Owens, yn arwain y deyrnged iddi.
Bydd sesiwn #Caerdydd50 yn y Tŷ Gwerin yn cynnwys perfformiadau a hanesion cwmnïau eraill - Dawnswyr Twrch Trwyth, Nantgarw a Bro Taf.
Denims, y FWA a mwd
Roedd yn "griw eitha' brith, â bod yn onest" gydag athrawon newydd gymhwyso, yn bennaf, medd Rhodri Jones, wnaeth benderfynu cystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Y Barri yn 1968, er na wnaethon nhw hynny am wahanol resymau.
Ymunodd y criw hwnnw â grŵp lleol arall - oedd yn cynnwys y gyflwynwraig, Elinor Jones - i ffurfio'r cwmni dawns.
"Cwmni o'n ni mwy na dawnswyr achos roedd nifer ohonon ni'n canu," meddai Mr Jones.
"Mi ddechreuon ni ymarfer gyda wyth ohonon ni, os hynny, ac un cerddor, o gwmpas cartrefi henoed yn ardal Caerdydd yn y cyfnod cynnar yna cyn Nadolig 1968.
"Fe ddechreuon ni gael enw. Ymddangoson ni yng nghyngres deintyddion, gredwch chi fyth, yn gynnar yn 1969. Dyna oedd ein cyngerdd cyhoeddus cynta' ni!"
Mae'n cofio mynd i Ŵyl Geltaidd yn Penzance yn fuan wedyn, yn griw "braidd yn rhyfygus... yn ein 20au cynnar, newydd ddechra' gweithio... yng nghanol y crach Albanaidd ac ati, ninna'n gwisgo denims a Dreigiau Coch ac yn llawn ein Cymreictod".
"Anghofia'i fyth, roedd un o'r bois â chrys gyda FWA [Free Wales Army] wedi'i sgrifennu ar ei gefn!"
Yn 1969 fe gystadlodd y parti am y tro cyntaf erioed gan ddod i'r brig yn Eisteddfod yr Urdd yn Aberystwyth. Ar ôl chwarae mewn gêm rygbi y bore hwnnw, roedd un o'r dawnswyr "ar lwyfan yr Eisteddfod yn dal yn fwd, clatshen ar ei drwyn...".
Dyna fan cychwyn degawdau o gystadlu, mwynhau a chymdeithasu. Cadwyd enw gwreiddiol y cwmni tan y 1980au, er bod yr aelodau'n rhy hen i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, er mwyn hybu gwaith y mudiad ieuenctid.
Dynes â steil
Christine Jones oedd yn bennaf gyfrifol o'r dechrau am ddyfeisio symudiadau Cwmni Dawns Werin Caerdydd, ac roedd yn gwneud hynny'n drylwyr, meddai ei gŵr.
"Doedd dim torri corneli. O'dd y gwisgoedd yn gorfod bod yn berffaith.
"O'dd hi'n 'neud lot fawr o ymchwil... roedd bron gwisg erbyn y diwedd ar gyfer pob dawns gwahanol. Oedd un set wedi'i wneud ar y cyd â Sain Ffagan.
"Dwi'n falch bod 'na deyrnged gyhoeddus i'w gwaith, a dwi'n credu bydde hi... ond bod y peth yn cael ei wneud â steil. Dyna'r gair ar gyfer Chris.
"Ym mhopeth roedd hi'n 'neud, oedd rhaid iddo fod o'r safon uchaf ac â steil."
'Llai sidêt' heddiw
Eiry Palfrey wnaeth lunio trefn y cyflwyniad yn y Tŷ Gwerin ar ran Cymdeithas Ddawns Werin Cymru.
Mae llwyddiant cynyddol Gŵyl Ifan dros 40 mlynedd ar strydoedd Caerdydd yn arwydd, meddai, o boblogrwydd dawnsio gwerin ynghyd â phoblogrwydd twmpathau, "yn enwedig ym mhriodasau".
Arwydd arall, meddai, yw nifer y plant a phobl ifanc o bob cwr o Gymru sy'n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, er mae'n cydnabod bod "ddim cymaint" yn cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol.
"Mae'r ysgolion ar gau, a'r rhieni'n gwasgaru," dywedodd.
"Mae'n anodd i ysgolion gael timau at ei gilydd. Ond maen nhw'n cystadlu yn yr Ŵyl Gerdd Dant. Mae cyfleoedd eraill i gadw'r diddordeb."
Mae dawnsio gwerin wedi datblygu llawer dros y degawdau, meddai, a grwpiau fel Dawnswyr Nantgarw'n arbenigo ar ddawnsiau "llawn patrymau cymhleth".
Mae dathliad #Caerdydd50 hefyd yn cynnwys twmpath yn Nhŷ Portland, Stryd Biwt nos Lun.
"Os y'ch chi'n meddwl am ddawnsio gwerin blynyddoedd yn ôl, roedd pethau yn fwy sidêt. Mae pobl yn gadael i bethau fynd mwy heddiw ac yn llacio ac yn mwynhau eu hunain."
Ychwanegodd: "Mae cythraul ddawnsio erbyn heddiw. Mae'r timau gwahanol yn reit frwd wrth gystadlu yn erbyn ei gilydd ac mae hynny ynddo'i hun yn codi safon."
Mae cyfeillgarwch ac awydd i'r traddodiad ffynnu, pa bynnag densiwn all godi yn ystod cystadleuaeth, yn clymu'r partïon gwahanol, medd Rhodri Jones.
Mae'n cofio cystadlu ar un achlysur yn erbyn ei barti ei hun fel bod y grŵp arall â'r nifer cywir o ddawnswyr, a'r adeg y bu'n rhaid benthyg eu dillad eu hunain i wrthwynebwyr wedi i'w gwisgoedd nhw gael eu difetha gan lifogydd yn eu gwersyll.
"Y ddawns sy'n bwysig yn y pen draw."