Ymchwilio i eitem â 'sylwedd anhysbys' ym Mhenfro
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaethau brys yn delio gydag eitem yn cynnwys "sylwedd anhysbys" a allai fod yn beryglus ym Mhenfro.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i Deras y Castell toc cyn 13:00 prynhawn Gwener ac mae'r heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans hefyd ar leoliad erbyn hyn.
Mae'r gwasanaethau brys wedi anfon chwe cherbyd i'r lleoliad.
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi pwysleisio nad oes perygl i'r cyhoedd ar hyn o bryd, ond bod angen i drigolion lleol fod yn ymwybodol o bresenoldeb amlwg y gwasanaethau brys yn y dref yn ystod yr ymchwiliad.
Bydd Castell Penfro ar gau am weddill y diwrnod a'r daith ysbrydion arfaethedig wedi ei ganslo.