Y Blaid Werdd ddim am rannu rhwng Cymru a Lloegr
- Cyhoeddwyd
Mae aelodau'r Blaid Werdd yng Nghymru wedi pleidleisio yn erbyn rhannu o'r blaid yn Lloegr.
Roedd arweinydd y blaid yng Nghymru, Grenville Ham, wedi ymgyrchu dros gynlluniau i sefydlu plaid annibynnol, yn debyg i'r Blaid Werdd yn yr Alban.
Ond mewn refferendwm fe wnaeth bron i 65% o aelodau wrthwynebu'r syniad.
Dywedodd dirprwy arweinydd y blaid yng Nghymru a Lloegr, Amelia Womack ei bod hi'n falch fod y blaid wedi rhoi cyfle i'w haelodau gael dweud ei dweud ar y mater.
'Llawr gwlad'
Fe wnaeth tua 20% o'r 1,500 aelod o'r blaid yng Nghymru bleidleisio.
Dywedodd Mr Ham fod y bleidlais yn brawf fod y blaid yn cael ei "redeg gan bobl ar lawr gwlad."
Ychwanegodd Ms Womack fod pleidlais wedi'i gynnal ar y mater oherwydd bod y cwestiwn wedi codi ar sawl achlysur.
"Dwi'n siwr y bydd yn gwestiwn byddwn yn ofyn eto i'n haelodau yn y dyfodol," meddai.