Pwyllgor yn galw am ymestyn cynllun gofal plant am ddim

  • Cyhoeddwyd
PlentynFfynhonnell y llun, PA

Dylai gofal plant am ddim gael ei gynnig i rieni di-waith sydd ar gwrs neu hyfforddiant sy'n gysylltiedig â chanfod gwaith, yn ôl pwyllgor Cynulliad.

Mae cynllun peilot yn cynnig 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni sy'n gweithio.

Ond yn ôl y pwyllgor plant, pobl ifanc ac addysg y Cynulliad gallai ei gyfyngu i rieni sy'n gweithio yn unig arwain at gynyddu'r bwlch cyrhaeddiad rhwng teuluoedd breintiedig a difreintiedig.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod ganddo brosiectau sy'n helpu gyda chostau gofal plant i rieni sy'n chwilio am waith.

Ymestyn ledled Cymru

Mae'r cynllun sy'n cynnig 30 awr yr wythnos o ofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed yn cael ei dreialu mewn saith awdurdod lleol, gyda'r bwriad o'i ymestyn i Gymru gyfan erbyn 2020 ar gost o £100m y flwyddyn.

Mae adroddiad y pwyllgor yn dweud y dylai gwersi gael eu dysgu o'r cynlluniau peilot.

Ffynhonnell y llun, Getty Images

Dywedodd y cadeirydd, yr AC Llafur Lynne Neagle: "Rydym yn pryderu ynghylch i ba raddau y mae'r cynnig gofal plant cenedlaethol arfaethedig, sy'n cael ei hwyluso gan y Bil a'i dreialu mewn gwahanol ardaloedd o Gymru ar hyn o bryd, yn targedu'r rhai sydd fwyaf angen y cymorth.

"Rydym yn cytuno â Llywodraeth Cymru y dylai creu system profi cymhwysedd cenedlaethol, i'w weinyddu gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC), ei gwneud yn haws i rieni wneud cais ac ysgafnhau'r baich gweinyddol ar awdurdodau lleol.

"Fodd bynnag, rydym yn pryderu bod cyfyngu darpariaethau'r Bil i blant rhieni sy'n gweithio yn peryglu cynyddu'r bwlch sydd eisoes yn bodoli rhwng ein plant mwyaf difreintiedig a breintiedig mewn perthynas â'u datblygiad a chyrhaeddiad addysgol.

"Oherwydd hynny, rydym yn argymell bod y Bil yn cael ei ddiwygio i ymestyn ei ddarpariaethau y tu hwnt i rieni sy'n gweithio, i gynnwys rhieni sy'n chwilio am waith drwy ddilyn addysg a hyfforddiant sy'n gysylltiedig â sicrhau cyflogaeth."

Mae'r pwyllgor hefyd yn awgrymu adolygu oedran y plant sy'n cael budd o'r cynllun, gan ddweud bod arolwg gan Lywodraeth Cymru wedi canfod bod mwy o alw am ofal pan mae plant rhwng un a thair oed.

'Un o nifer o raglenni'

Ddydd Gwener fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru gwerth £60m o nawdd i adeiladu ac adnewyddu methrinfeydd, oherwydd pryderon nad yw rhai rhieni'n cymryd rhan yn y cynllun am nad oes gofal ar gael mewn lle cyfleus.

Dywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth: "Ry'n ni'n glir mai ymrwymiad y llywodraeth yw datblygu cynnig gofal plant sy'n helpu rhieni i ganfod neu ddychwelyd i'r gwaith.

"Y nod yw cael gwared ar rwystr i gyflogaeth a rhyddhau arian y gallan nhw ei ddefnyddio i wella amgylchiadau'r teulu.

"Mae'n bwysig cofio hefyd mai dim ond un o nifer o raglenni sydd â'r nod o gefnogi rhieni gyda chostau gofal plant yw hon."