'Siom a gwarth' colli'r Gymraeg o Radio Ceredigion

  • Cyhoeddwyd
Radio Ceredigion

Mae un o sylfaenwyr Radio Ceredigion yn dweud ei bod hi'n "siom ac yn warth" y bydd llai o Gymraeg i'w chlywed ar yr orsaf yn y dyfodol.

Daw sylwadau Elvey MacDonald wrth i gwmni masnachol Nation Radio baratoi cais newydd i redeg yr orsaf.

Mae'r cwmni'n dweud fod y sefyllfa'n ymwneud â'r orsaf yn "anymarferol" ar ei ffurf bresennol, ac oherwydd hynny, mae'n debygol y bydd y Gymraeg yn cael ei chlywed llai a llai ar Radio Ceredigion.

Wrth ymateb i'r datblygiadau, dywedodd Mr MacDonald, oedd yno ar ddechrau Radio Ceredigion yn nechrau'r 1990au: "Dwi'n meddwl ei fod yn siom ac yn warth - mae e i'w wneud â hunaniaeth yn y pendraw ydyw e, hynny yw, pwy ydych chi.

"Os oeddech chi'n gwrando ar Radio Ceredigion, mi roeddech chi'n Gardi, mi roeddech chi'n siarad Cymraeg mwy na thebyg, wel, bron yn sicr.

"Mae hynna i gyd - efo'r cwmni sydd wedi bod wrthi ers y blynyddoedd diwethaf - wedi mynd.

"Man a man eich bod chi mewn dinas fawr yn Lloegr. Does yna ddim gwahaniaeth, does yna ddim teimlad bod yna wasanaeth i ardal Gymreig a Chymraeg yn perthyn iddi.

Disgrifiad o’r llun,

Dechreuodd Radio Ceredigion ddarlledu ym 1992

Mae Ofcom wedi trwyddedu gorsaf radio newydd i'r canolbarth am y ddwy flynedd nesaf o leiaf, sef Radio Aber.

Bwriad y gwirfoddolwyr sy'n rhedeg yr orsaf newydd yw darlledu 50% o'r cynnwys yn Gymraeg.

Ond dydy hynny ddim yn gysur i Mr MacDonald: "Lle mae darlledu yng Nghymru yn y cwestiwn, fe ddylai pob gorsaf fod yn cael eu cyfarwyddo a'u gorfodi i ddarlledu hyn a hyn o oriau yn y Gymraeg, neu fe ddylai fod ganddyn nhw sianeli ar wahân Saesneg a Chymraeg, y naill neu'r llall.

"Mae'n afresymol o safbwynt poblogaeth Cymru i Ofcom ddweud wrth y gorsafoedd yma, gwnewch chi beth fynnwch chi, yn Saesneg yn unig, dyw e ddim yn gyfiawn."

'Dim pwerau'

Yn ôl Ofcom, mater i ymgeiswyr y drwydded yw penderfynu pa fath o wasanaeth i'w gynnig ac ym mha iaith.

"Does gan y corff ddim pwerau i osod gofynion ar raglenni ac ymgeiswyr trwydded, gan gynnwys ymrwymiadau iaith," medd llefarydd.

Yn ôl Euros Lewis, cyn is-gadeirydd i fwrdd Radio Ceredigion ac sydd bellach yn gweithio ar brosiect Radio Beca, mae angen i bobl gymryd yr her i'w dwylo eu hunain: "Dwi'n credu nawr, ma fe'n glir i ni, fod e'n gosod y bil wrth ein traed ein hunain.

'Bod ar flaen y gad'

"Os ydyn ni mo'yn darlledu - nid yn unig yn Gymraeg, ond darlledu am y pethau y'n ni mo'yn trafod a dathlu a phopeth - mae'n rhaid i ni ei wneud e'n hunain, wrth fynd ati i afael yn y cyfleoedd sydd gyda ni nawr i ddarlledu ac i wneud hynny mewn ffordd sydd yn gwasanaethu, nid yn unig yr iaith Gymraeg, ond yn bwysicach na hynny, yr hyn mae'r iaith yn ei fynegi, sef y ffordd o fyw, y gymdeithas, y diwylliant, a gwneud hynny mewn ffordd sydd yn defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf - bod ar flaen y gad yn lle trio dala lan.

"Dwi'n credu dala lan yw beth mae'r cwmnïau masnachol ma'n trio gwneud a thrio wrth ddala wrth gynulleidfa.

"Yn y Gymraeg mae gyda ni gyfle i fod yn flaengar ac i symud pethe mlaen, ac i wneud pethe does neb arall yn ei wneud."

Mae'r drwydded sy'n cael ei chynnig gan Nation Radio dan ymgynghoriad ar hyn o bryd.