Dafydd Wigley'n cefnogi Rhun ap Iorwerth i arwain Plaid
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd Plaid Cymru, Dafydd Wigley wedi dweud ei fod yn cefnogi Rhun ap Iorwerth ym mrwydr arweinyddol y blaid.
Dywedodd yr Arglwydd Wigley, oedd wrth y llyw rhwng 1991 a 2000, fod gan AC Ynys Môn y sgiliau i fod yn brif weinidog yn dilyn yr etholiad Cynulliad nesaf.
Yn 2012 fe wnaeth yr Arglwydd Wigley gefnogi Leanne Wood pan enillodd hi'r arweinyddiaeth.
Mae Ms Wood yn wynebu her ar hyn o bryd gan Mr ap Iorwerth ac AC Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, Adam Price.
Yn gynharach yn yr wythnos fe wnaeth un arall o ffigyrau hŷn y blaid, Cynog Dafis, ddatgan ei gefnogaeth i Mr Price.
Ond yn ôl yr Arglwydd Wigley, mae gan Rhun ap Iorwerth y gallu i uno'r blaid a Chymru.
"Dwi'n meddwl fod gan Rhun y sgiliau a'r gallu i ddarparu'r arweinyddiaeth newydd sydd ei angen o fewn grŵp Plaid yn y Cynulliad, ac mae ganddo'r rhinweddau i arwain Llywodraeth Cymru yn 2021 a thu hwnt," meddai.
Ychwanegodd fodd bynnag fod tri "ymgeisydd gwych" yn y ras.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd4 Gorffennaf 2018
- Cyhoeddwyd17 Gorffennaf 2018