Dyn yn pledio'n euog i gyhoeddi negeseuon hiliol

  • Cyhoeddwyd
Jonathan JenningsFfynhonnell y llun, YouTube
Disgrifiad o’r llun,

Jonathan Jennings yn un o'r fideos a gyhoeddodd ar YouTube

Mae dyn o Frynaman yn Sir Gâr wedi pledio'n euog i 10 cyhuddiad o gyhoeddi negeseuon gyda'r bwriad o gorddi casineb hiliol.

Ymddangosodd Jonathan Jennings, 34 oed, yn Llys y Goron Abertawe drwy linc fideo ddydd Gwener.

Clywodd y llys fod Jennings wedi cyhoeddi'r negeseuon ar wefan o'r enw GAB - sydd yn disgrifio ei hun fel rhwydwaith gymdeithasol sy'n cynnig rhyddid i lefaru.

Roedd y negeseuon yn cynnwys rhai oedd yn galw am ladd a sterileiddio Mwslemiaid, bygythiad yn erbyn Jeremy Corbyn, a rhai yn dweud fod Hitler wedi cael ei eni 100 mlynedd yn fuan.

Mae chwech o'r cyhuddiadau yn cyfeirio at ddeunydd a gyhoeddwyd i annog casineb, tri yn cyfeirio at yrru negeseuon bygythiol, ac un am yrru neges sarhaus.

Bydd Jennings yn cael ei gadw yn y ddalfa nes ei ymddangosiad nesaf yn y llys ar 10 Awst.