Pwy sy'n elwa o'r cynllun brecwast ysgol am ddim?

  • Cyhoeddwyd
Rhieni
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r papurau newydd Prydeinig wedi bod yn adrodd ar y stori yn Ysgol y Berllan Deg

Yr wythnos hon daeth un ysgol Gymraeg yng Nghaerdydd i sylw'r wasg wrth i rieni geisio sicrhau lle i'w plant yn y clwb brecwast.

Roedd lluniau'n dangos dwsinau o rieni'n ciwio y tu allan i Ysgol y Berllan Deg yn ardal Llanedern - rhai ers yr oriau mân - er mwyn cael brecwast am ddim i'w plant ar gyfer mis Medi.

Dywedodd Cyngor Caerdydd ei bod yn "amhosib" i'r ysgol ddarparu lle ar gyfer pawb wnaeth gais.

Fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru gafodd ei lansio yn 2004, mae gan bob disgybl ysgol gynradd hawl i frecwast am ddim.

Ond pwy, mewn gwirionedd, sy'n elwa o'r cynllun?

Yn ôl Llywodraeth Cymru, bwriad y cynllun yw "gwella iechyd plant ynghyd â'u gallu i ganolbwyntio er mwyn codi safonau dysgu a safonau cyrhaeddiad".

Ffynhonnell y llun, Media Wales
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Leanne Taylor ei bod wedi bod yn y ciw tu allan i Ysgol y Berllan Deg ers 03:30 y bore i sicrhau brecwast am ddim i'w phlentyn

Os edrychwn ni ar StatsCymru, dolen allanol, gwefan ystadegau swyddogol Llywodraeth Cymru, mae'r nifer sy'n derbyn brecwast am ddim yn gymaint uwch na ffigwr y disgyblion sy'n gymwys i dderbyn cinio am ddim (sydd ddim ar gael i bawb).

Yn ôl meini prawf y llywodraeth, mae prydau cinio am ddim yn cael eu darparu i'r "disgyblion mwyaf difreintiedig mewn teuluoedd ar incwm isel".

Edrychwn ni ar y ffigyrau diweddaraf (2016/17) yn ardal Ysgol y Berllan Deg, sef Canol De Cymru.

Yn y flwyddyn honno, fe dderbyniodd 18,136 o ddisgyblion frecwast am ddim.

Nifer y disgyblion oedd yn gymwys i dderbyn cinio ysgol am ddim a gafodd frecwast am ddim oedd 3,625.

Felly roedd 14,511 (80%) o'r rheiny dderbyniodd frecwast ddim yn cyrraedd meini prawf y llywodraeth ar gyfer cinio am ddim.

Ffynhonnell y llun, SolStock

Mae'r ffigyrau'n dangos yr un duedd ym mhob sir yng Nghymru.

Trwy Gymru gyfan, derbyniodd 59,648 o ddisgyblion frecwast am ddim.

Dim ond 10,544 oedd yn disgyn o dan y categori "disgyblion mwyaf difreintiedig mewn teuluoedd ar incwm isel" ac felly'n cael cinio am ddim hefyd.

'Nid menter gofal plant yw hon'

Felly ydy rhieni sy'n gweithio yn manteisio ar y cyfle i anfon eu plant i'r ysgol yn gynt?

Oes 'na deuluoedd "difreintiedig" sy'n colli'r cyfle oherwydd hynny?

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru wrth Cymru Fyw: "Mae brecwast am ddim yn gynnig sy'n agored i bawb. Fodd bynnag, rhieni sydd i benderfynu p'un a ydynt am fanteisio ar y cynnig ai peidio.

"Nid oes meini prawf ar gyfer bod yn gymwys am frecwast ysgol am ddim; ond ysgolion sy'n penderfynu sut i weinyddu'r cynllun, a rhaid iddynt roi ystyriaeth i ffactorau ymarferol wrth wneud hynny.

"Rydyn ni wedi bod yn glir o'r dechrau: nid menter gofal plant yw'r fenter hon.

"Nod y cynnig yw sicrhau bod disgyblion ysgol gynradd yn cael brecwast iach am ddim yn yr ysgol bob dydd - a sicrhau bod unrhyw blant nad ydynt wedi cael brecwast, am ba reswm bynnag, yn gallu cael un yn yr ysgol.

"Mae manteision eraill i'r cynllun hefyd: mae'n gwella prydlondeb a chanolbwyntio, mae'n caniatáu i ddisgyblion dawelu cyn bo gwersi'n dechrau, ac mae'n gwella ymddygiad drwy'r diwrnod cyfan."

I weld y ffigyrau'n eich hardal chi yn llawn, cliciwch yma., dolen allanol