Cofio chwaer drwy fideo ymwybyddiaeth canser yr ofari

  • Cyhoeddwyd
Katie-Sue Guthrie a Jodi GovierFfynhonnell y llun, Jodi Govier
Disgrifiad o’r llun,

Katie-Sue Guthrie (chwith) a'i chwaer Jodi Govier

Mae chwaer i ddynes o Fro Morgannwg, a gollodd ei brwydr yn erbyn canser yr ofari, wedi creu fideo i godi ymwybyddiaeth am y salwch.

Bu farw Katie-Sue Guthrie o'r Barri, mam i ddau o blant, ym mis Mehefin 2017, yn 40 oed.

Mae'r gân "Big C's Not Hot, dolen allanol" yn fersiwn o un o ganeuon y seren rap Big Shaq, ac yn annog menywod i fod yn ymwybodol o symtomau'r salwch.

Mae elusen Target Ovarian Cancer wedi codi pryderon am ddiffyg ymwybyddiaeth o'r symtomau.

Ffynhonnell y llun, Jodi Govier
Disgrifiad o’r llun,

Katie-Sue a Jodi yn blant

Cafodd Katie-Sue ddiagnosis hwyr o'i chyflwr, medd ei chwaer, Jodi Govier wrth BBC Cymru Fyw: "Roedd hi'n sâl am chwe mis cyn i ni golli hi.

"Gath hi ddiagnosis hwyr iawn iawn ar ôl bod yn ôl ac ymlaen at y doctor. Roedd y doctor yn dweud mai IBS oedd e, neu pob math o bethau eraill.

"Dim tan y mis Tachwedd naethon nhw hela hi am sgan a ffeindio bod canser yr ofari gyda hi.

"Roedd e lot, lot yn rhy hwyr. Erbyn hynny, roedd e wedi ymledu i'w hysgyfaint hi a gweddill ei chorff hi."

Ffynhonnell y llun, Jodi Govier
Disgrifiad o’r llun,

Katie-Sue a Jodi gyda'u mam

Canser yr ofari yw un o'r mathau mwyaf cyffredin o ganser ymhlith menywod.

Mae'n effeithio, gan fwyaf, ar fenywod sydd wedi bod drwy'r menopos, ond mae'n gallu taro menywod iau hefyd.

Mae'r symtomau'n cynnwys y bol yn chwyddo, y bol a'r pelfis yn teimlo'n anghyfforddus, a theimlo'r angen i fynd i'r tŷ bach yn aml.

Gall rhai o'r symtomau ymdebygu i gyflwr syndrom coluddyn llidus, neu IBS.

'Sioc enfawr'

"Roedd e'n sioc enfawr i ni," medd Jodi Govier.

"Doedd dim cyfle gyda ni i feddwl am y peth i fod yn onest - na hi. Ro'n i'n gallu gweld ei bod hi'n rhwystredig.

"Roedd hi mo'yn paratoi a gallu ysgrifennu llythyrau at ei phlant hi, ac roedd hi jyst yn rhy sâl i'w wneud e.

"Hwnna oedd yn brifo lot - i weld ei bod hi mo'yn neud pethe oedd hi ddim yn gallu."

Ffynhonnell y llun, Jodi Govier
Disgrifiad o’r llun,

Jodi a ffrindiau Kate sydd wedi creu'r fideo

Yn dilyn ei marwolaeth, penderfynodd Jodi a ffrindiau i'w chwaer bod angen codi ymwybyddiaeth o'r symptomau, ac annog menywod i fynd yn ôl at eu meddyg os ydyn nhw'n parhau.

Fe ddewison nhw wneud hynny drwy lansio "Big C's Not Hot" ar YouTube - eu fersiwn eu hunain o fideo cerddoriaeth rap "Man's Not Hot" gan y comedïwr a'r seren rap, Big Shaq.

"Roedd Kate yn berson caredig iawn, dim ond mo'yn neud yn siŵr bod pawb arall yn iawn, byth yn meddwl amdani hi ei hunan," medd Jodi.

"Roedd hi hefyd yn berson llawn hwyl, out of the box, oedd hi'n unigryw iawn - roedd hi'n eitha' gwyllt ar adegau, yn wahanol iawn i fi!

'Rhywbeth gwahanol'

"Ro'n i'n clywed ei phlant hi'n canu'r gân yma pan ddaeth e ar y radio 'Dolig diwethaf.

"O'n i 'di bod, ers sbel, yn trio meddwl am rywbeth gwahanol i'w wneud, achos o'n i'n gwybod y bydde hi - tase hi wedi goroesi - wedi bod yn ymgyrchydd brwd iawn.

"O'n i mo'yn neud rhywbeth ysgafn, llawn hwyl, y bydde pobl yn gallu chwerthin arno fe, a hefyd, yn ddealladwy, fod pobl yn gallu deall beth oedd y symptomau o'r fideo.

"Achos mae e'n beth sensitif, preifat a phersonol. Mae rhai o'r symptomau'n bethe fyddech chi ddim eisiau siarad amdanyn nhw.

Ffynhonnell y llun, Jodi Govier

Yn ôl gwaith ymchwil, gafodd ei gyhoeddi gan elusen Target Ovarian Canser ym mis Medi 2017, doedd pedair o bob pum dynes yng Nghymru ddim yn adnabod y symptomau sydd ynghlwm â'r salwch.

Mae 350 o fenywod yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser yr ofari pob blwyddyn, ac mae 250 yn marw o'r salwch.

Fe ddaeth y gwaith ymchwil i'r casgliad hefyd fod 36% o fenywod Cymru'n ymweld â'u meddyg teulu dair gwaith neu fwy cyn cael eu cyfeirio am brofion.

Mae hynny'n golygu eu bod yn fwy tebygol o gael diagnosis hwyrach, gan wneud triniaeth yn fwy anodd.

Symtomau canser yr ofari:

  • Bol yn teimlo'n chwyddedig yn barhaol;

  • Bol ac ardal y pelfis yn teimlo'n anghyfforddus;

  • Teimlo'n llawn yn sydyn pan yn bwyta;

  • Teimlo'r angen i fynd i'r tŷ bach yn aml.

Yn y cyfamser, mae ymdrechion Jodi i godi ymwybyddiaeth am ganser yr ofari yn parhau. Bydd hi'n cerdded pellter marathon o Gas-gwent i Drefynwy ddydd Sadwrn.