Dim digon o brentisiaethau'n 'defnyddio'r Gymraeg'

  • Cyhoeddwyd
prentis mewn coleg

Mae angen i Lywodraeth Cymru daclo'r "rhwystrau" sy'n atal mwy o bobl rhag dilyn prentisiaethau yn y Gymraeg, yn ôl Comisiynydd y Gymraeg.

Ar drothwy trafodaeth ar y mater yn y Sioe Fawr yn Llanelwedd ddydd Mawrth, dywedodd Meri Huws fod "bwlch mawr" yn y ddarpariaeth ar hyn o bryd.

Dangosodd ffigyrau yn 2016/17 mai dim ond 0.3% o brentisiaethau oedd yn cynnwys o leiaf un gweithgaredd cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn "cydnabod bod gwaith i'w wneud yn y maes".

'Chwalu rhwystrau'

Y llynedd fe gyhoeddodd y Comisiynydd adroddiad yn awgrymu mai "prin" oedd y defnydd o Gymraeg mewn prentisiaethau.

Yn 2016-17 dim ond 4% o raglenni prentisiaeth oedd yn cynnwys o leiaf un gweithgaredd dysgu dwyieithog, a 0.3% yn unig oedd yn cynnwys o leiaf un gweithgaredd cyfrwng Cymraeg.

Dywedodd yr adroddiad nad oedd canran y prentisiaethau oedd yn cynnwys elfen ddwyieithog neu gyfrwng Cymraeg wedi cynyddu o gwbl ers 2013-14, er bod y canran oedd yn cynnwys rhywfaint o Gymraeg wedi cynyddu ychydig.

Roedd hynny'n cynnwys prentisiaethau mewn meysydd fel amaeth - a hynny er bod y Cyfrifiad diwethaf yn 2011 wedi awgrymu ei fod ymhlith y diwydiannau ble mae'r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg yn gweithio.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Meri Huws bod angen i ddisgyblion allu symud o addysg Gymraeg i gyfleoedd gwaith yn yr iaith hefyd

Bydd y mater yn cael ei drafod gan banel yn y Sioe fydd yn cynnwys Carol Harry o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Sian Davies o gwmni peiriannau amaethyddol Gwili Jones, a Gary Lewis sy'n Gyfarwyddwr Chwaraeon gyda'r Urdd.

"Mae'r ffigyrau'n dangos bod yna fwlch mawr fan hyn, ac nad oes digon o fanteisio ar y cyfleoedd i sicrhau bod disgyblion sy'n derbyn addysg Gymraeg yn yr ysgol yn symud ymlaen i ddefnyddio'r iaith yn y byd gwaith, yn enwedig mewn swyddi galwedigaethol," meddai Meri Huws.

"Mae angen hybu a chefnogi ymgysylltu gwell rhwng darparwyr, cyflogwyr a dysgwyr. Ond mae angen i'r Llywodraeth hefyd gynllunio ar y lefel genedlaethol er mwyn datblygu capasiti yn y sector a chwalu'r rhwystrau sy'n atal cynyddu defnydd y Gymraeg mewn prentisiaethau.

"Fel rhan o hyn, dylid sicrhau bod digon o bobl yn gallu hyfforddi ac asesu drwy gyfrwng y Gymraeg, bod deunyddiau Cymraeg ar gael a bod anogaeth a chymorth ar gael i gyflogwyr a phrentisiaid."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nod ein strategaeth Cymraeg 2050 yw cyrraedd y targed uchelgeisiol o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae addysg a chynyddu nifer y dysgwyr sy'n parhau i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ar gyfer eu hopsiynau ôl-16, yn allweddol i gyrraedd y nod yma.

"Ry'n ni'n cydnabod bod gwaith i'w wneud yn y maes. Dyna'r rheswm ein bod wedi estyn cylch gorchwyl rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys Addysg Bellach a Dysgu Seiliedig ar Waith.

"Drwy eu Bwrdd Cynghori Ôl-16 maent yn y broses o ddatblygu cynllun gweithredu ffurfiol a fydd yn sail i ymyriadau yn y dyfodol gyda'r diben o ddatblygu darpariaeth drwy'r Gymraeg ar gyfer y cyfnod ôl-16."