Penodi Rhuanedd Richards yn olygydd newydd Radio Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae BBC Cymru wedi cyhoeddi y bydd Rhuanedd Richards yn olynu Betsan Powys fel golygydd Radio Cymru.
Fe fydd Ms Richards, a ddechreuodd ei gyrfa fel newyddiadurwr gyda BBC Cymru, hefyd yn gyfrifol am wasanaeth ar-lein digidol Cymru Fyw.
Mae'n gyn-brif weithredwr ar Blaid Cymru, ac mae hefyd wedi gweithio fel ymgynghorydd i Lywodraeth Cymru ac yna i Lywydd y Cynulliad.
Fis diwethaf fe gyhoeddodd Betsan Powys ei bod yn gadael y swydd wedi pum mlynedd wrth y llyw.
Mae BBC Cymru wedi cadarnhau nad yw Ms Richards, 44 oed, bellach yn aelod o Blaid Cymru.
'Cyfle cyffrous'
Wrth gyhoeddi'r penodiad ddydd Mawrth dywedodd Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales: "Mae Rhuanedd yn arweinydd medrus a llwyddiannus ac mae ganddi ddealltwriaeth ddofn o Gymru.
"Mae hi'n angerddol ynglŷn â radio a'n gwasanaethau digidol Cymraeg - a dwi wrth fy modd ei bod hi'n dychwelyd i BBC Cymru i arwain Radio Cymru a Chymru Fyw.
"Rwy'n gwybod fod Rhuanedd yn benderfynol o adeiladu ar lwyddiant y ddau wasanaeth."
Dywedodd Ms Richards, gafodd ei magu ar aelwyd ddi-Gymraeg yng Nghwm Cynon, fod BBC Radio Cymru wastad wedi bod yn arwydd iddi "fod y Gymraeg yn iaith fyw".
"Yn fy arddegau, rhaglenni cerddoriaeth yr orsaf agorodd fy llygaid i ddiwylliant Cymraeg cyffrous a hyfyw, ac wrth ddechrau fy ngyrfa newyddiadurol yn y nawdegau, braint oedd gohebu a chyflwyno ar yr orsaf," meddai.
"Mae'r cyfle hwn i arwain y gwasanaeth yn un cyffrous tu hwnt, a hynny'n enwedig yn dilyn llwyddiant Betsan wrth lansio'r ail orsaf, BBC Radio Cymru 2, yn gynharach eleni.
"Rydw i hefyd yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda thîm BBC Cymru Fyw - gwasanaeth sy'n cynnig cyfle euraidd i gyrraedd cynulleidfaoedd Cymraeg newydd.
"Fy mlaenoriaeth felly fydd i sicrhau bod y gwasanaethau gorau posib ar gael drwy'r Gymraeg, a'u bod yn cyrraedd cynifer o bobl ag sy'n bosib."
Bydd Rhuanedd Richards yn cychwyn ar ei swydd newydd yn yr hydref.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mehefin 2018