Carcharu capten am ddynladdiad milwr yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Y Marchfilwr Michael Maguire
Disgrifiad o’r llun,

Bu farw'r Marchfilwr Michael Maguire ar ôl cael ei saethu yn ei ben ym mis Mai 2012

Mae swyddog yn y fyddin wedi ei garcharu am 18 mis am ddynladdiad trwy esgeulustod, ar ôl i filwr gael ei ladd mewn ymarfer saethu yn Sir Benfro.

Clywodd y llys fod y Capten Jonathan Price, 32, wedi "diystyru diogelwch yn llwyr" yn ystod y digwyddiad yng Nghastellmartin ym mis Mai 2012.

Roedd Michael Maguire, 21 o ardal Cork yn Iwerddon, yn un o nifer o filwyr oedd ar y maes ymarfer "diogel" pan wnaeth dryll peiriannol ddechrau saethu tuag atynt.

Yn ogystal â'r 18 mis dan glo, bydd Price hefyd yn cael ei ddiswyddo o'r fyddin.

Cafwyd dau arall - yr Is-gyrnol Richard Bell a'r Swyddog Gwarantedig Stuart Pankhurst - hefyd yn euog gan y llys milwrol o berfformio dyletswydd yn esgeulus mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Bydd Bell yn colli ei statws fel Is-gyrnol am flwyddyn, tra bod Pankhurst wedi derbyn dirwy o £3,000.

Trosedd 'ddifrifol'

Darllenodd brawd Mr Maguire, Jimmy, ddatganiad yn disgrifio pa mor anodd oedd hi i'r teulu orfod aros mor hir am atebion ynghylch ei farwolaeth.

"Nid oes unrhyw gysur o glywed y ddedfryd, dim ots be fyddai wedi digwydd ni all unrhywbeth ddod a Mike yn ôl.

"Mae o'n golled enfawr i ni, ac i'r rhai oedd yn ei 'nabod, a dwi'n gobeithio ei fod yn gorffwys mewn hedd."

Clywodd y llys nad oedd Price wedi paratoi cynllun diogelwch maes digonol, wedi gosod targedau yn rhy agos at ei gilydd ac wedi methu a gwahanu dau ymarfer ar y maes y diwrnod hwnnw.

Dywedodd yr Is-gyrnol Paul Walker mai Price oedd un o'r swyddogion "gorau iddo weithio hefo nhw erioed", a bod y digwyddiadau hyn wedi peri gofid iddo am chwe blynedd.

Wrth ddedfrydu Price dywedodd y Barnwr Alan Large, fod y drosedd mor "ddifrifol" bod diswyddo o'r fyddin yn "anochel".